Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yn arwain y ffordd gydag atgyfeiriadau deintyddol electronig

Cymru bellach yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno atgyfeiriadau deintyddol electronig ar draws yr holl arbenigeddau deintyddol. Bydd y System Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol newydd yn caniatáu i ymarferwyr deintyddol cyffredinol atgyfeirio cleifion yn electronig i ofal sylfaenol neu eilaidd ar gyfer gofal arbenigol a thriniaeth bellach. Mae’r system ar y we yn cael ei darparu gan Ymgynghorwyr FDS mewn partneriaeth â Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru. Mae’n disodli atgyfeiriadau papur traddodiadol, gan leihau’r risg o golli gwybodaeth neu lythyron ac mae’n mynd i’r afael ag oedi wrth drin cleifion.

Aeth y system yn fyw yn gynharach eleni ym Myrddau Iechyd Bae Abertawe a Hywel Dda ac yna cafodd ei chyflwyno’n genedlaethol erbyn diwedd mis Mai.

Mae nifer fawr wedi ymuno a’r system gyda 98.6% o ddeintyddion eisoes wedi’i defnyddio. Maent yn dweud ei bod yn hawdd ei defnyddio, yn gweithio’n dda ac yn gwneud bywyd yn haws iddynt hwy, eu cleifion ac i ymgynghorwyr ysbyty. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, mae dros 20,000 o atgyfeiriadau eisoes wedi mynd trwy’r system.

‘Mae’r system newydd yn gam ymlaen yr oedd mawr ei angen i ddarparu llwybr atgyfeirio effeithiol y mae modd ei olrhain i gleifion ar gyfer yr ystod lawn o wasanaethau arbenigol ... ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a FDS, yn ogystal â’r byrddau iechyd lleol i sicrhau ei bod yn datblygu i fod y system orau bosib.’ - Jonathan Carter, Cadeirydd, Pwyllgor Deintyddol Lleol.

Mae hyn yn cwmpasu yr holl arbenigeddau ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys:

•          Orthodeintyddion

•          Llawfeddygaeth y Geg

•          Llawfeddygaeth y Genau a’r Wyneb

•          Meddygaeth y Geg

•          Deintyddiaeth Adferol

•          Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol (Pediatreg a Gofal Arbennig)

•          Canser posibl y tybir bod angen sylw brys arno

Gellir blaenoriaethu atgyfeiriadau yn y system sy’n sicrhau bod ansawdd yr wybodaeth a anfonir at arbenigwyr yn gywir a bod cleifion yn derbyn y gofal cywir yn y lle iawn. Am y tro cyntaf, gall cleifion olrhain eu hatgyfeiriadau ar-lein drwy fwydo rhif cyfeirnod unigryw ar y wefan https://www.dental-referrals.nhs.wales/gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am eu gofal.

Gall ymarferwyr deintyddol cyffredinol hefyd atodi radiograffau i atgyfeiriadau, y mae modd i arbenigwyr gael mynediad iddynt, sy’n golygu nad oes rhaid i gleifion brofi radiograffau dro ar ôl tro. Bydd Byrddau Iechyd yn defnyddio data a gesglir o atgyfeiriadau electronig i gynllunio ac ailgynllunio gwasanaethau i’r dyfodol.

Gwnaethpwyd y prosiect yn bosibl trwy gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru, Ymgynghorwyr FDS, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd.