Neidio i'r prif gynnwy

Siartio'r Atlas Cardiofasgwlaidd: Sesiwn holi ac ateb gyda Sally Cox

Mae Sally Cox yn casglu data - data y gellir ei ddefnyddio i wella bywydau a chryfhau gofal cleifion.

Yn ddiweddar, fel Arbenigwr Cyhoeddi Arweiniol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, fe wnaeth Sally chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno'r data ar gyfer Atlas Amrywiaeth Cardiofasgwlaidd GIG Cymru - cyhoeddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru sy'n amlygu problemau cardiaidd ledled Cymru, â'r nod o wella gofal cardiofasgwlaidd.  

Cynhyrchwyd yr atlas yn unol â chais Llywodraeth Cymru, ac mae'n gobeithio codi cwestiynau am uniondeb mynediad, effeithiolrwydd a gwerth y gwasanaethau a ddarperir gan GIG Cymru, a gweithredu fel ysgogiad ar gyfer trawsnewid, arloesedd a chyflwyno gwasanaethau cardïaidd gwerth uchel ar sail tystiolaeth.

Mae'r ddogfen ar gael ar  www.wcn.wales.nhs.uk/caov. Mae siartiau a mapiau rhyngweithio i ategu'r rhyddhad ar gael ar Mapiau Iechyd Cymru.

C: Ymddengys fod hwn yn fater eithaf pwysig. Allwch chi ddweud ychydig bach wrtha' i am beth mae atlas yn gobeithio ei gyflawni?

A: Beth oedd y Cydweithrediaeth Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r arbenigwyr cardiofasgwlaidd eisiau ei wneud oedd dechrau sgwrs am pam fod gwahaniaethau - pam y gall fod lefelau gwahanol o ddifrifoldeb salwch cardiofasgwlaidd ledled Cymru, cyfraddau gwahanol, triniaethau gwahanol. Beth maen nhw'n edrych amdano mewn gwirionedd yw presenoldeb amrywiad anawdurdodedig a allai fod yn sgil tanddefnyddio ymyriadau gwerth uchel neu orddefnyddio rhai gwerth isel ac, ar ôl eu hamlygu, darganfod y rhesymau pam mae'r amrywiadau hynny'n bodoli.

C: Ymyriadau gwerth uchel ac isel?

A: Mae ymyriadau'n golygu "triniaeth". Triniaethau gwerth uchel yw'r rheiny sy'n darparu'r budd mwyaf i'r claf a dylid defnyddio'r rhain ledled Cymru yn lle triniaethau â gwerth cyfyngedig neu isel. Mae'r atlas hwn yn gobeithio amlygu hyn, os dyma'r achos. Y nod yw i'r Cydweithrediaeth Iechyd a'r arbenigwyr weithio gyda'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau cardïaidd ar sail eu casgliadau. Mae'n gydweithrediaeth.

C: Sut ydych chi'n rhan ohono?

A: Rwy'n rhan o weithgor technegol atlas a chawsom arweiniad gan y grwp cyfeirio arbenigol - y cardiolegwyr a'r clinigwyr ar draws GIG Cymru. Nhw oedd yn penderfynu ar ba ddangosyddion yr oedden nhw eisiau edrych. Roedden nhw eisiau canolbwyntio ar dri phrif faes: Syndrom Coroniadd Acíwt, Methaint y Galon a Ffibriliad Artrïaidd. Yn rhan o'm rôl i fel dadansoddwr, mae gen i fynediad at setiau data'r GIG, ac felly fy ngwaith i oedd cyfuno'r data, creu'r dangosyddion a chreu'r ddelwedd - a'i harddangos mewn ffordd hawdd i'w deall.

Caiff y rhan fwyaf o'r data a ddefnyddiwyd ei gadw yn ein warws data cenedlaethol, er enghraifft, y data gofal eilaidd a gesglir yn fisol oddi wrth byrddau iechyd. Hefyd, roedd data gofal sylfaenol, data archwiliad cardiaidd o'r byrddau iechyd a data am farwolaethau oddi wrth y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

C: Gadewch i mi ofyn mwy i chi am Dîm Cyhoeddi Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Ar wahân i Lywodraeth Cymru, pwy sy'n gofyn am wybodaeth? Ar gyfer beth y maen nhw'n ei defnyddio?

A: Mae pobl yn gofyn am wybodaeth bob amser - ymchwilwyr yn chwilio am ystadegau, clinigwyr am ffigurau. Ac mae llawer o geisiadau yn dod oddi wrth ein byrddau iechyd ein hunain. Gallant holi am eu data eu hunain, ond weithiau maen nhw angen gweld data o fyrddau iechyd eraill, er mwyn iddyn nhw allu cymharu eu gwasanaethau neu efallai ble maen nhw'n genedlaethol.  

Mae ein tîm cyhoeddi yn ceisio defnyddio'r wybodaeth hon, ei chrynhoi a'i chyflwyno mewn ffordd glir - p'un ai ar ffurf testun, graff, map, neu gymwyseddau rhyngweithiol. Mae llawer o groesi gyda'n tîm cyhoeddi sy'n delweddu ac arddangos y wybodaeth hon, a Thîm Dadansoddi Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Maen nhw'n ymdrin â llawer iawn o geisiadau ad hoc - negeseuon e-bost a galwadau ffôn gan Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, meddygfeydd, pawb.

C: A fydd mwy atlasau amrywio, ar gyfer pynciau eraill efallai?

A: Wel, cynllun Llywodraeth Cymru oedd datblygu cyfres o atlasau amrywiol. Hwn oedd y cyntaf yr oedden nhw eisiau ei greu. Ond nid ydym ni'n gwybod ar hyn o bryd. Gadewch i ni pa mor llwyddiannus fydd hwn, ac a all ddechrau'r sgyrsiau sydd eu hangen i ddeall yn well yr amrywiad ledled Cymru, a gweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth geisio hybu gwella a gofal iechyd ar sail gwerth.