Neidio i'r prif gynnwy

Tair seren ar gyfer Desg Gwasanaeth NWIS

Mae Desg Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn falch o gyhoeddi y dyfarnwyd Ardystiad Desg Gwasanaeth "tair seren" i ni gan y Service Desk Institute - sefydliad rhyngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol desg gymorth a'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaeth a chymorth TG. 

Cyhoeddodd y sefydliad fod ein Desg Gwasanaeth wedi cyflawni lefel aeddfedrwydd "Wedi'i Arwain gan y Cwsmer".

"Mae'r ffaith ein bod yn 'Cael ein Harwain gan Gwsmeriaid' yn pennu ein bod ar flaen y gad yn ein gwasanaeth o ran gweithredu gyda chwsmeriaid ac rydym ni'n bodloni mesurau sy'n cael eu cydnabod gan ddiwydiant," dywedodd Bryan Thomas, Uwch Arbenigwr Desg Gwasanaeth. "Mae derbyn y wobr hon yn brawf o'n twf a'n hymroddiad parhaus i ddarparu'r safon uchaf o wasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer."

Mae Desg Gwasanaeth NWIS yn gwasanaethu GIG Cymru i gyd, ac yn gweithredu fel yr un man cyswllt rhwng desgiau gwasanaeth lleol a thimau cymorth cenedlaethol. Mae'n ganolbwynt ar gyfer adrodd am achosion a gwneud ceisiadau gwasanaeth. Hefyd, dyma'r unig ddesg gwasanaeth yn GIG Cymru i gael ei hardystio gan y Service Desk Institute.