Bydd Rhwydwaith Arloesi newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd a Llywodraeth Cymru yn dod â hyrwyddwyr arloesi, arweinwyr ac ymarferwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ynghyd.
Mae holl aelodau staff ein tîm Llywodraethu Gwybodaeth wedi llwyddo i ennill tystysgrif Ymarferydd Diogelu Data BCS.
Y mis hwn, lansiwyd ein gwefan newydd, sy'n cynnwys gwell ymarferoldeb a nodweddion ynghyd â chynnwys a dyluniad o ansawdd uwch - a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi gael mynediad at wybodaeth o unrhyw ddyfais, gan gynnwys ffonau symudol a llechi.
Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fuddsoddiad sylweddol yng ngwasanaeth e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru wrth gychwyn Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ers hynny, mae'r e-Lyfrgell wedi tyfu'n sylweddol ac wedi profi i fod yn adnodd cynyddol werthfawr i staff y GIG ledled Cymru.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw'r bwrdd iechyd diweddaraf i elwa o'r system iechyd plant newydd, sef y System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS).
Mae'r System Reoli E-gyfeiriadau Deintyddol newydd, sy'n galluogi deintyddfeydd i anfon cyfeiriadau yn electronig, gan ddefnyddio templedi a gytunwyd arnynt yn genedlaethol, bellach yn weithredol ym Myrddau Iechyd Bro Morgannwg a Hywel Dda.
Mae adnodd data cenedlaethol (NDR) yn cael ei ddatblygu i alluogi GIG Cymru yn well i wella profiad cleifion a chanlyniadau gwasanaethau.
Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio System Gwybodaeth Radioleg Cymru (WRIS), sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel RadIS2.
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yw’r sefydliad GIG cyntaf yn y DU i feddu ar y Safon BS76000 Gwerthfawrogi Pobl a’r Safon BS76005 Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi dechrau creu cyfres newydd o gynhyrchion e-ddysgu wedi'u cynllunio i wella cofnodi gwybodaeth glinigol.
Mae'r holl negeseuon e-bost a anfonir ar draws y mwyafrif o sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru bellach yn ddiogel ac wedi cael eu hamgryptio, yn dilyn ymdrech ar y cyd rhwng Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a sector cyhoeddus Cymru.
Caerdydd a'r Fro yw'r bwrdd iechyd diweddaraf i elwa ar y system iechyd plant newydd, System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS). Mae'n dilyn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a weithredodd CYPrIS yn gynharach eleni.
Bydd gwasanaeth swabio dolur gwddf yn y fan a’r lle, wedi’i ddylunio i leddfu pwysau ar feddygon teulu a mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthfiotig. Ar gael yn 48 fferyllfa gymunedol; 23 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a 25 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Datganiad gan Andrew Griffiths yn dilyn adolygiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi datblygu modiwl yn yr offeryn meddalwedd Audit+, i gefnogi'r prosiect cenedlaethol, "Stopio Strôc".
Buddsoddiad sylweddol yn e-Lyfrgell Iechyd GIG Cymru wedi ei gyhoeddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau cyllid ar gyfer nifer o brentisiaethau gwybodeg iechyd drwy Athrofa Wybodaeth Ddigidol Cymru.
Yn dilyn dyfarnu contract fframwaith newydd i gyflenwi gwasanaethau a systemau TG meddygon teulu i GIG Cymru, gofynnwyd i feddygfeydd yng Nghymru ddewis rhwng y ddau gyflenwr llwyddiannus, sef Microtest a Visio.
Mae prosiect newydd ar waith sy'n canolbwyntio ar lunio cofrestr genedlaethol a gwella gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n byw â pharlys yr ymennydd.