Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect cenedlaethol, Stopio Strôc, yn cael cefnogaeth technoleg Audit+

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi datblygu modiwl yn yr offeryn meddalwedd Audit+, i gefnogi'r prosiect cenedlaethol, "Stopio Strôc".
 
Mae dros 7,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef strôc bob blwyddyn. Mae'r prosiect " Stopio Strôc " yn canolbwyntio ar ffibriliad artrïaidd (AF), arrhythmia cardiaidd cyffredin sy'n ffactor mewn 20% o strociau.
 
Mae'r modiwl Audit+ yn amlygu cleifion â ffibriliad artrïaidd, a beth yw eu meddyginiaethau presennol. Gall meddygon teulu adolygu cleifion i weld a oes ganddynt bresgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau gwrthgeulydd, a all leihau'r risg o strôc o ddwy ran o dair.
 
"Mae'r gwelliant diweddar hwn i'r offeryn Audit+, sydd eisoes yn llwyddiannus, yn cynnig budd gwirioneddol i gleifion Cymru. Mae'n caniatáu i dimau meddygfeydd adolygu meddyginiaethau a galw ar gleifion i ddod i gael adolygiad, fel y bo'n briodol," meddai Simon Scourfield, ein Harweinydd Rheoli Gweithrediadau Gofal Sylfaenol.
 
Mae Audit+ yn offeryn archwilio, adrodd ac ansawdd data meddygon teulu, a gyflwynir a chefnogir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, sydd ar gael i bob meddygfa ledled Cymru. Mae'n darparu llwyfan cyffredin yng Nghymru, y gellir adeiladu arno'n hawdd, i ddarparu modiwlau teilwredig - fel y modiwl ffibriliad artrïaidd, er enghraifft - i gefnogi meddygfeydd a gwella bywydau cleifion.