Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad adolygiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Yn dilyn cyhoeddi adolygiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus o wasanaethau a systemau TG GIG Cymru, dywedodd Prif Swyddog Gwybodaeth GIG Cymru, a Chyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Andrew Griffiths:
 
“Rydym ni’n hollol ymroddedig i fynd i’r afael â’r argymhellion a godir yn yr adolygiad, ac rydym ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru i wneud hyn. 


“Mae nifer o newidiadau eisoes ar waith i wella’r llwyfan TG cenedlaethol, a chryfhau gwydnwch.  Mae gwaith yn parhau i uwchraddio a gwella ein canolfannau data, ac rydym ni wedi gweithredu ymagwedd gadarn ar ddiogelwch seiber, yn gyfwerth â safonau byd-eang. Mae system TG gofal canser newydd wrthi’n cael ei datblygu, ynghyd â gwelliannau i’r system gofal canser etifeddol i sicrhau ei bod yn bodloni anghenion clinigol ac i liniaru gwendidau posibl.


 “Hoffwn bwysleisio ein bod ni wedi gwneud cynnydd digidol sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf, a Chymru yw’r genedl gyntaf lle mae canlyniadau profion a nodiadau clinigol ar gael pa bynnag le mae’r claf yn derbyn gofal – sy’n creu cofnod claf di-dor. Cyflawniad mawr, sy’n cael effaith enfawr ar y ffordd y cyflwynir gofal.


“Fodd bynnag, mae’n glir o’r adolygiad ei bod hi’n hanfodol ein bod ni’n parhau i gael buddsoddiad digonol mewn TG, i reoli gwasanaethau presennol a datblygu cymwysiadau modern newydd.
“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydnabod sgiliau, cymhwysedd ac ymroddiad ein gweithlu gwybodeg, sy’n hanfodol i gynnal y seilwaith presennol, a datblygu’r defnydd o dechnoleg iechyd yn GIG Cymru.


“Rydym ni’n gwybod bod technoleh modern yn hanfodol i gyflwyno iechyd a gofal nawr ac yn y dyfodol, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio ar weilliannau gyda’n partneriaid mewn ymddiriedolaethau a byrddau iechyd.”