Neidio i'r prif gynnwy

£3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion. 


Wrth siarad yn y Gynhadledd ar Iechyd a Gofal Digidol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd (dydd Mercher 7 Tachwedd), dywedodd Vaughan Gething y byddai'r cyllid yn rhan o raglen newydd dair blynedd ar gyfer Iechyd a Chynhwysiant Digidol. Nod y rhaglen yw gwella sgiliau technoleg staff a chleifion a'u helpu i fynd ar-lein a rheoli eu gwybodaeth feddygol.
 
Dywedodd: “Drwy gael y sgiliau a'r cymhelliant i ddefnyddio gwasanaethau iechyd digidol, bydd pobl yn gallu rheoli eu cyflyrau iechyd yn fwy effeithiol, a bydd hynny ar yr un pryd yn lleihau'r pwysau mawr sydd ar wasanaethau'r GIG.” 
 
“Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 yn dangos nad oedd  60% o bobl yng Nghymru 75 oed ac yn hŷn, a 26% o bob anabl, yn manteisio ar dechnoleg ddigidol. Mae'r bobl hyn hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol na gweddill y boblogaeth. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwella eu gallu i ddefnyddio gwasanaethau digidol." 
 
Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James, sydd â chyfrifoldeb dros faterion digidol: “Drwy wella llythrennedd digidol, gallwn wella canlyniadau iechyd i bobl yn sylweddol drwy ei wneud yn haws iddyn nhw reoli eu cyflyrau iechyd a gwella eu llesiant.
Mae datblygu sgiliau digidol sylfaenol pobl Cymru yn un o flaenoriaethau'r llywodraeth hon. Rydyn ni’n gwybod mai’r rheini sydd fwyaf tebygol o orfod defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw’r rhai sydd leiaf tebygol yn aml iawn o ddefnyddio technoleg. 
 
Wedi'r cyhoeddiad heddiw, byddwn ni'n gwahodd ceisiadau tendro y dydd Gwener yma ar gyfer rhaglen cynhwysiant digidol dair blynedd werth £6 miliwn, a fydd yn cael ei hariannu ar y cyd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2019. Mae'r cyllid hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant digidol o ran sicrhau trawsnewid digidol ym maes iechyd.”