Neidio i'r prif gynnwy

System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS) yn dod i Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw'r bwrdd iechyd diweddaraf i elwa o'r system iechyd plant newydd, sef y System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS).

Mae'r cymhwysiad CYPrIS, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru gofnod gofal gweithredol. Bydd clinigwyr nawr yn cael mynediad at fwy o wybodaeth am iechyd plentyn, a byddant yn gallu gwneud penderfyniadau mwy gwybodus am opsiynau gofal.

Y cymhwysiad CYPrIS yw'r pedwerydd o'i fath i'w ddatblygu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ac mae'n darparu ymarferoldeb cynhwysfawr ar gyfer nifer o raglenni iechyd cenedlaethol, fel y rhaglenni Imiwneiddio Plant Cenedlaethol, a Phlant Iach Cymru. Yn ogystal â'r cymhwysiad craidd, mae fersiwn darllen yn unig ar gael ar y we, sy'n caniatáu i glinigwyr weld cofnod iechyd cyfan plentyn.

Mae clinigwyr ym myrddau Iechyd Aneurin Bevan a Chaerdydd a'r Fro eisoes yn defnyddio CYPrIS ac wedi rhoi adborth cadarnhaol amdano.

Bydd CYPrIS yn parhau i gael ei gyflwyno ar draws y byrddau iechyd drwy gydol 2019. Bydd y cymhwysiad yn cael ei ddatblygu ymhellach i gynnwys nifer o integreiddiadau allweddol, fel rhyngwyneb meddygon teulu, a System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS).