Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgor cydweithredol yn anelu at arloesedd Parlys yr Ymennydd

Mae prosiect newydd ar waith sy'n canolbwyntio ar lunio cofrestr genedlaethol a gwella gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer pobl sy'n byw â pharlys yr ymennydd. 

Bydd y gofrestr yn cofnodi symptomau, asesiadau a gofal parhaus ar gyfer pobl sy'n byw â'r cyflwr, a fydd yn caniatáu goruchwylio gwella a chydlynu â rhaglenni ymyrryd.  
 
I annog ymagwedd gydweithredol at ddatblygu'r gofrestr, sefydlwyd grwp llywio sy'n cynnwys rhieni, cleifion, cynrychiolwyr o bob bwrdd iechyd, ac arweinwyr iechyd eraill.
 
"Rydym ni'n awyddus i ymgysylltu pobl â pharlys yr ymennydd a'u teuluoedd â datblygu a chynnwys y gofrestr, ac rydym yn bwriadu ei defnyddio i hybu ymwybyddiaeth gynyddol a gwella'r gwasanaeth," meddai Jenny Carroll, Ffisiotherapydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Canolfan Therapi Plant Bobath Cymru. 
 
"Credwn y bydd y gofrestr yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n byw â pharlys yr ymennydd trwy wasanaethau tecach ar sail tystiolaeth," meddai Pediatrydd Cymunedol Ymgynghorol Powys a Chymrawd Comisiwn Bevan, Rachel Lindoewood. 
 
Yn ddiweddar, mynychodd cynrychiolwyr o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ddau is-grwp gwybodeg cyntaf y grwp llywio cenedlaethol. Ym mhen blaen y trafodaethau yw'r potensial i ymgorffori'r gofrestr â System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru, yn enwedig trwy ffisiotherapi. 
 
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gysylltiedig â'r prosiectau hyn yn gynnar. Mae'n golygu y gallwn ni ddechrau'r sgyrsiau hynny ynghylch sut gall prosiectau fel y rhain ddod yn rhan o'n systemau," meddai ein Harweinydd Gwybodeg Clinigol Cenedlaethol, Joanna Dundon.