Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfeydd yn dewis systemau TG

Yn dilyn dyfarnu contract fframwaith newydd i gyflenwi gwasanaethau a systemau TG meddygon teulu i GIG Cymru, gofynnwyd i feddygfeydd yng Nghymru ddewis rhwng y ddau gyflenwr llwyddiannus, sef Microtest a Visio.

 

Y canlyniad oedd, 111 o feddygfeydd yn dewis Microtest, a 305 o feddygfeydd yn dewis Vision. Clywodd y meddygfeydd gan y ddau gyflenwr mewn cyfres o sioeau teithiol a gynhaliwyd ledled y wlad yn ystod mis Ebrill a mis Mai, a gofynnwyd iddynt gyflwyno eu penderfyniad terfynol erbyn diwedd mis Mai.  
 
Bydd y symudiadau cyntaf i'r systemau newydd yn dechrau ym mis Ionawr 2019.