Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant e-ddysgu yn rhoi hwb i godwyr clinigol

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi dechrau creu cyfres newydd o gynhyrchion e-ddysgu wedi'u cynllunio i wella cofnodi gwybodaeth glinigol.
 
Mae byrddau iechyd Cymru yn cofnodi amrywiaeth o wybodaeth am y mathau o glefydau, anafiadau a chyflyrau eraill y mae pobl sy'n dod i'r ysbyty yn cael diagnosis ohonynt, yn ogystal â'r gweithdrefnau a'r ymyriadau a gyflawnir i'w trin nhw.  Mae gan bob sefydliad adran bwrpasol o godwyr clinigol sy'n gyfrifol am drosi'r wybodaeth hon yn ddosbarthiadau a gydnabyddir yn rhyngwladol, er mwyn i GIG Cymru allu adrodd ar y gweithgarwch sy'n digwydd.
 
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi dechrau rhaglen o fodiwlau e-ddysgu ar-lein ar gyfer y staff hyn, y cyntaf o'i math yn y DU. Mae'n ymdrin â gwybodaeth glinigol am bwnc, wedi'i chyfuno ag effaith ystadegol y wybodaeth, a'r rheolau sy'n llywodraethu safonau cofnodi priodol, ac mae'r modiwlau hyn wedi cael eu cynllunio i sicrhau fod y wybodaeth yn  gymaradwy ni waeth ble a phryd y cafodd ei chofnodi. Mae'r modiwl cyntaf, ar roi diagnosis a thrin Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint bellach wedi mynd yn fyw i holl Fyrddau Iechyd Cymru.
 
"Mae codio yn waith cymhleth a thechnegol," esboniodd David Dawes, Arweinydd y Rhaglen Hyfforddi Genedlaethol ar gyfer Dosbarthiadau Clinigol. "Trwy gynhyrchu hyfforddiant safonedig gyda sylfaen clinigol ac ystadegol o ansawdd uchel, gallwn wneud yn siwr fod y wybodaeth rydym ni'n ei chofnodi o'r ansawdd gorau posibl. Ac wrth ei wneud ar-lein, gallwn sicrhau ei bod hi ar gael i fwy o ddefnyddwyr pan fo'i hangen, sy'n wahanol i'n cyrsiau presennol yn yr ystafell ddosbarth."
 
Yn ogystal â'r modiwl cychwynnol, mae gwaith yn parhau ar amrywiaeth o arbenigeddau eraill, gan gynnwys cyflyrau'r bledren, a rhoi diagnosis a thrin toriadau.