Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith ar gyfer syniadau da

Bydd Rhwydwaith Arloesi newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan yr Hwb Gwyddorau Bywyd a Llywodraeth Cymru yn dod â hyrwyddwyr arloesi, arweinwyr ac ymarferwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ynghyd.

Bydd y rhwydwaith yn:

  • Canfod, rhannu ac arddangos arfer da o ran arloesi ym maes iechyd a gofal, ac yn cefnogi cynnydd mewn gweithgarwch arloesol.
  • Darparu grwp cymheiriaid i gefnogi arloesedd ym mhob rhanbarth yng Nghymru.
  • Rhannu gwybodaeth am gyfleoedd ariannu strategol a lleol ar gyfer arloesi.
  • Paru anghenion y boblogaeth â diddordeb a gallu yn y diwydiant.
  • Cefnogi'r broses o ddatblygu a gweithredu Canolfannau Ymchwil, Arloesedd a Gwella ar draws Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Os hoffech chi ymuno â'r Rhwydwaith Arloesi a chael eich cynnwys yng ngweithgareddau'r dyfodol, gallwch gyflwyno'ch manylion trwy safle cofrestru'r rhwydwaith.