Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion wedi'u harchifo

 
22/10/20
Adnewyddu gwefannau GIG Cymru

Mae tua 300 o wefannau ledled GIG Cymru yn cael eu hadnewyddu, ac mae hyn wedi'i bweru gan System Rheoli Cynnwys (CMS) newydd, fodern.

19/10/20
Ymgynghoriadau Fideo ar gyfer Fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion

Mae fferyllwyr, deintyddion ac optometryddion wedi bod yn treialu Gwasanaeth Ymgynghori Fideo’r GIG ar ôl ei lwyddiant ymhlith meddygon teulu. Mae adborth gan ddefnyddwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn gyda sylwadau megis ‘gostyngiad yn amser teithio cleifion, llai o lanhau a diheintio ystafelloedd’ a ‘gwell proses frysbennu i arbed apwyntiadau wyneb yn wyneb’.

29/09/20
Datblygwyr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn creu cysylltiadau hanfodol yn ap COVID-19 y GIG

Mae datblygwyr o NWIS wedi bod yn rhan o'r tîm sy’n sicrhau bod ap COVID-19 y GIG yn cysylltu â data a systemau sy'n cael eu defnyddio yng Nghymru i helpu i atal lledaeniad Coronafeirws. Mae llwyddiant y gwaith integreiddio rhwng yr ap a’r systemau labordy yn golygu bod yr ap yn rhedeg yn esmwyth yng Nghymru.

25/09/20
Cofnodion Diabetes Digidol yn helpu gofal cleifion yn ystod y pandemig

Mae Nodyn Ymgynghori Diabetes Digidol wedi helpu i ddarparu gofal i gleifion diabetes trwy gydol pandemig Covid. Mae'r nodyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gofnodi a gweld darlleniadau ac arsylwadau, meddyginiaethau a gwybodaeth arall am gleifion. Mae PDF o'r nodyn yn cael ei greu ym Mhorth Clinigol Cymru, y gall clinigwyr sy'n defnyddio'r system ledled Cymru ei ddefnyddio.   

15/09/20
Crynodebau ymgynghori digidol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol i feddygon teulu bellach yn fyw ledled Cymru

Mae'r cymhwysiad Choose Pharmacy yn darparu mynediad i borth diogel ar y we i fferyllfeydd cymunedol sy'n eu galluogi i gofnodi'n electronig ystod o ymgynghoriadau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol yn y fferyllfa.

14/09/20
Buddsoddiad o £13 miliwn mewn technoleg ar gyfer cleifion gofal dwys GIG Cymru

Bydd ysbytai yng Nghymru yn elwa ar system fonitro ddigidol uwch-dechnoleg newydd ar gyfer pobl sy'n ddifrifol wael mewn unedau gofal dwys.

07/09/20
Y Camau Nesaf ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar swyddogaethau’r awdurdod iechyd arbennig newydd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan Lywodraeth Cymru heddiw, dydd Llun 7 Medi.

03/09/20
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi cyrraedd rhestr fer tair Gwobr diwydiant TG Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain
28/08/20
Llwyddiant wrth deithio cylchedd Lesotho

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) wedi penderfynu mai SOS Children's Villages fydd ei elusen eleni.

20/08/20
Urddo Helen Thomas yn Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain

Mae Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, wedi dod yn Gymrawd Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain. 

07/08/20
Mae gennym gyfle cyffrous i dri phrentis ymuno â'n sefydliad yn llawn amser.
28/07/20
Gwasanaeth digidol newydd yn cefnogi fferyllfeydd lleol i ragnodi

O fis Mehefin 2020, bydd modiwl newydd o'r ap Dewis Fferylliaeth, y Gwasanaeth Rhagnodwyr Annibynnol (IPS), yn cefnogi fferyllwyr cymunedol sydd wedi cymhwyso fel rhagnodwyr anfeddygol i roi cyngor a thriniaeth effeithiol i gleifion sydd â chyflyrau penodol.

10/07/20
Adolygiad o achrediad academaidd graddau Cyfrifiadureg yn cael ei lansio gan y BCS

Bydd adolygiad newydd yn sicrhau y bydd gan raddedigion cyfrifiadureg y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sbarduno adferiad economaidd wrth i wyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI) newid y diwydiant wedi COVID-19.

07/07/20
Teulu yn Gwerthfawrogi Microsoft Teams

Mae nodweddion Microsoft Teams wedi’u galluogi ar gyfer yr holl bractisiau meddygon teulu.

02/07/20
Profi, Olrhain, Diogelu – Olrhain Cysylltiadau Digidol

Mae system olrhain cysylltiadau digidol Cymru gyfan yn elfen allweddol o wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Cymru ac mae’n cefnogi swyddogion olrhain cysylltiadau yn uniongyrchol. 

15/06/20
Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael cofnodion cleifion diabetes digidol

Mae clinigwyr diabetes yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg bellach yn defnyddio'r Nodyn Ymgynghoriad Diabetes cenedlaethol i gofnodi a gweld manylion cleifion ym Mhorth Clinigol Cymru.

14/06/20
Bwrdd Iechyd Bae Abertawe yn mynd yn fyw gyda'r gallu i wylio delweddau'n genedlaethol

Clinigwyr gofal eilaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw'r diweddaraf i elwa ar swyddogaeth ym Mhorth Clinigol Cymru sy'n caniatáu iddynt weld delweddau cleifion o fyrddau iechyd eraill yng Nghymru.

12/06/20
Lled band rhwydwaith GIG Cymru yn cynyddu

Mae gwasanaethau digidol sy'n defnyddio rhwydwaith GIG Cymru yn elwa ar gynnydd mawr mewn lled band.

11/06/20
System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn helpu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i ddarparu gofal adsefydlu yn ystod y pandemig

Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn helpu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i sicrhau bod gofal adsefydlu hanfodol yn cael ei ddarparu yn y gymuned i bobl sy'n gwella o coronafeirws.

02/06/20
Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn cefnogi gofynion gwybodaeth ynghylch COVID-19 a'i effaith yn y gymuned

Yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, mae grwp gorchwyl a gorffen adrodd cymunedol cenedlaethol newydd wedi'i sefydlu.