Neidio i'r prif gynnwy

System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn helpu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i ddarparu gofal adsefydlu yn ystod y pandemig

Mae System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (WCCIS) yn helpu Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i sicrhau bod gofal adsefydlu hanfodol yn cael ei ddarparu yn y gymuned i bobl sy'n gwella o coronafeirws.

Defnyddir y system i ddarparu data am nifer y bobl sy'n gwella o COVID-19, yn y gymuned a'r rhai sydd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty.

Bydd yn ceisio casglu data ynghylch y math o adferiad sydd ei angen ac sy'n cael ei ddarparu, ble mae hyn yn digwydd, ac amseroedd ymateb.

Bydd hefyd yn darparu data ar y dull cyswllt - ymgynghoriadau wyneb yn wyneb, ffôn a rhithwir - a nifer y cysylltiadau sy'n ofynnol i ddarparu rhaglen ofal sy'n diwallu anghenion yr unigolyn sy'n gwella o coronafeirws.

Bydd yr wybodaeth hon yn helpu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i nodi faint o staff sydd eu hangen i ddarparu adsefydlu, yn ogystal â llywio ymarfer ac ansawdd y gofal a ddarperir i bobl ledled Cymru.

Bydd hefyd yn tynnu sylw at unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth fel y gellir clustnodi adnoddau a'u rhoi ar waith i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu.

Dyma enghraifft arall o WCCIS yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gofynion gwybodaeth ynghylch COVID-19 i wella gofal, cefnogaeth ac i ddarparu gwasanaethau i bobl yn y gymuned.

Gofynnwyd i raglen WCCIS gefnogi'r gwaith hwn gan Gyfarwyddwyr Therapïau a Gwyddonwyr Iechyd a'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, trwy'r Uned COVID-19 Sylfaenol a Chymunedol.

Mae'n cyd-fynd â'r ymgyrch strategol genedlaethol i sicrhau bod adsefydlu yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol a pharhaus ar bob lefel i gefnogi adferiad y boblogaeth o effeithiau pandemig COVID-19, a chynaliadwyedd tymor hir y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei fframwaith adfer ar 29 Mai sy'n darparu arweiniad i helpu sefydliadau i gynllunio gwasanaethau adsefydlu yn dilyn y pandemig.