Neidio i'r prif gynnwy

Cofnodion Diabetes Digidol yn helpu gofal cleifion yn ystod y pandemig

Mae Nodyn Ymgynghori Diabetes Digidol wedi helpu i ddarparu gofal i gleifion diabetes trwy gydol pandemig Covid. Mae'r nodyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gofnodi a gweld darlleniadau ac arsylwadau, meddyginiaethau a gwybodaeth arall am gleifion. Mae PDF o'r nodyn yn cael ei greu ym Mhorth Clinigol Cymru, y gall clinigwyr sy'n defnyddio'r system ledled Cymru ei ddefnyddio.   

 

Dywedodd Dr Phil Evans o Ysbyty Brenhinol Morgannwg: “Yn ystod argyfwng COVID, darparwyd gofal brys i gleifion mewnol gan dimau clinigol ar batrymau sifftiau brys, a olygai fod cyfathrebu’n anodd ar brydiau. Fe wnaeth WISDM (Nodyn Ymgynghori Diabetes) alluogi gwybodaeth yn ymwneud â diabetes, gan gynnwys adolygiadau wardiau cleifion mewnol, i fod ar gael i bob tîm cleifion mewnol, gan gynnwys arbenigwyr gofal dwys, 24 awr y dydd, hyd yn oed os nad oedd y tîm diabetes ar gael. ”

 

Roedd y nodyn digidol diabetes ar gael o'r blaen yn ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac yn ddiweddar daeth ar gael yn Ysbyty Treforys, Abertawe.