Neidio i'r prif gynnwy

Cwblhau cyflwyno RadIS2 yn genedlaethol

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru bellach yn defnyddio System Gwybodaeth Radioleg Cymru (WRIS), sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel RadIS2.

Cyflwynwyd y system - sy'n perfformio swyddogaethau fel amserlennu cleifion ac adrodd clinigol sy'n ymwneud â delweddau meddygol, fel delweddau pelydr-x, sganiau CT ac MRI, ac uwchsain - ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol  Abertawe Bro (gorllewin) ar ddiwedd 2018, gan gwblhau ei weithrediad cenedlaethol.

Mae WRIS yn gweithio mewn cydweithrediad â'r System Archifo Lluniau a Chyfathrebu (PACS) i reoli storio, adalw, dosbarthu a chyflwyno delweddau, ac mae'n caniatáu rhannu'r delweddau hyn yn genedlaethol.

Mae ein tîm Cymorth RadIS yn gweithio'n agos ag adrannau TG lleol yn ysbytai Treforys a  Singleton yn Abertawe, ac mae adborth cynnar wedi bod yn gadarnhaol.

"Am y tro cyntaf, mae'r holl ysbytai yng Nghymru yn rhedeg eu hadrannau radioleg gan ddefnyddio'r WRIS cenedlaethol," meddai Uwch Arbenigwr Cynhyrchion RadIS, Amanda Carter. "Mae hyn yn golygu y gall yr holl weithwyr ledled Cymru weithio tuag at nod gyffredin a hybu gwasanaethau radioleg ymlaen gyda'i gilydd. Mae hwn yn gyflawniad gwych. Mae wedi bod yn her sylweddol ar nifer o lefelau, ond mae'r daith wedi bod yn haws yn sgil ymrwymiad, proffesiynoldeb a phenderfyniad pawb a oedd yn gysylltiedig."