Neidio i'r prif gynnwy

Bae Abertawe yn peilota meddalwedd derbyn newydd Porth Clinigol Cymru

Mae Ysbyty Treforys yn Abertawe yn defnyddio ymarferoldeb newydd ym Mhorth Clinigol Cymru i gynnal rhestrau cywir o gleifion preswyl - gan olrhain achosion o dderbyn, trosglwyddo a rhyddhau cleifion mewn amser gwirioneddol. Gall rhestrau byw o gleifion preswyl arbed amser i staff ysbytai wrth adalw gwybodaeth glinigol, fel cael mynediad at ganlyniadau profion neu fynd at gofnodion crynodeb meddyg teulu cleifion.

Hwn yw'r diweddariad diweddaraf i Borth Clinigol Cymru - y cymhwysiad cofnod iechyd digidol a ddefnyddir gan ysbytai yng Nghymru i gael gwybodaeth am gleifion a'u gofal.

Mae pob ward feddygol yn Nhreforys yn peilota'r gwasanaeth derbyn, rhyddhau a throsglwyddo (ADT) newydd sy'n cysylltu â System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS). Mae'n olrhain cleifion o'r adeg y cânt eu derbyn i'r ysbyty, eu trosglwyddiadau i wardiau ac ysbytai eraill, a'u rhyddhau.

"Mae'r feddalwedd newydd yn sicrhau bod data derbyn am y claf bob amser yn gyfoes ac ar gael i gefnogi gofal y claf," dywedodd David Sheard, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglenni TGCh yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. "Does dim bwlch amser rhwng y derbyniad amser gwirioneddol a chofnodi manylion y claf, ac maen nhw ar gael trwy'r system gweinyddu cleifion."

Yn dilyn y peilot, bydd y datganiad ar ADT yn cael ei werthuso a bydd ar gael i'r holl fyrddau iechyd trwy Borth Clinigol Cymru.

Mae ymarferoldeb i roi mynediad i ddefnyddwyr y porth at wasanaethau digidol trawsgrifio ac e-ryddhau meddyginiaethau hefyd yn cael ei beilota ar wardiau meddygol Ysbyty Treforys. Mae'r ymarferoldeb hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn byrddau iechyd eraill.

Mae Trawsgrifio Meddyginiaethau yn gwella'r ffordd y caiff meddyginiaethau eu rheoli trwy alluogi fferyllwyr ysbytai i drawsgrifio meddyginiaethau cleifion yn electronig.  Bydd hyn yn cynorthwyo cleifion o'r adeg y cânt eu derbyn hyd nes y cânt eu rhyddhau.

Mae e-ryddhau yn galluogi clinigwyr i gofnodi crynodeb am arhosiad claf yn yr ysbyty, sy'n cael ei anfon yn electronig at y meddyg teulu, gan osgoi oedi hir weithiau rhwng rhyddhau, a gwybodaeth am ofal y claf yn yr ysbyty yn cyrraedd y meddyg teulu.

Mae mwy o wybodaeth am Borth Clinigol Cymru ar gael ar ein gwefan.