Neidio i'r prif gynnwy

Amlygu Gwasanaethau Masnachol

Er eu bod nhw wedi cael eu henwebu, ni wnaeth ein Tîm Gwasanaethau Masnachol ennill gwobr ddymunol iawn yng Ngwobrau Caffael Go eleni ym Mirmingham y mis diwethaf - a oedd yn cydnabod y prosiectau caffael cyhoeddus gorau yn y DU.

Roedd y tîm yn bwriadu adeiladu ar lwyddiant yr hydref diwethaf, pan wnaethant ennill tair gwobr yn nigwyddiad Gwobrau Go Cymru, sy'n dathlu rhagoriaeth, arloesedd ac arweinyddiaeth ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru. 

Eleni, enwebwyd y tîm ar gyfer Gwobr Arloesedd y Flwyddyn GO ar gyfer ei waith PROMS a PREMS, yn ogystal â Gwobr Prosiect Caffael y Flwyddyn GO ar gyfer Fframwaith Meddygon Teulu.