Neidio i'r prif gynnwy

Llythyrau Gwarchod wedi'u camgyfeirio – rydym yn ymddiheuro

Ar 24 Mawrth dosbarthwyd llythyrau gwarchod generig i 86,000 o gleifion Cymru sy’n cael eu cyfri’n fregus. O ganlyniad i wall prosesu, anfonwyd nifer o’r llythyron hynny at gyfeiriad blaenorol. Nid oedd y llythyrau yn cynnwys unrhyw wybodaeth feddygol bersonol.

Mae’r holl lythyrau wedi’u dosbarthu eto i’r cyfeiriadau cywir bellach.

Ymddiheurwn yn ddiffuant i bawb yr effeithiwyd arnynt ac am unrhyw bryder y gallai hyn fod wedi'i achosi.

Roedd y manylion cyswllt a broseswyd ar gyfer awdurdodau lleol yn cynnwys y manylion cyswllt cywir o'r cychwyn cyntaf, ac maent wedi bod yn cysylltu'n uniongyrchol â phob person dan sylw dros y pythefnos diwethaf. Derbyniodd archfarchnadoedd y cyfeiriadau cywir hefyd ac maent wedi bod yn defnyddio’r rhain i flaenoriaethu slotiau dosbarthu i bobl sy’n hunanynysu.

Rydym wedi riportio'r mater i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.