Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau fideo ac ar-lein newydd i gleifion allanol

Mae COVID-19 yn prysur newid y ffordd mae ein hysbytai a'n practisiau meddygon teulu yn darparu gofal, gyda chyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol a'r galw am gapasiti ychwanegol.

Mewn ymateb i hyn, rydym yn cyflymu'r gwaith o gyflwyno ystod o offer digidol i helpu i ddarparu gofal rheng flaen a pharhau i ofalu am y cleifion sydd fwyaf agored i niwed.

Rydym yn ymgymryd ag ymgynghoriadau fideo ar gyfer y 1,200 o glinigau cleifion allanol a gynhelir ar ddiwrnod arferol yng Nghymru, ynghyd â nodweddion hanfodol newydd ar Borth Clinigol Cymru i gefnogi'r ymgynghori rhithiwr.

Mae llawer o glinigwyr eisoes wedi llwyddo i gynnal ymgynghoriadau dros y ffôn, gyda chymorth mynediad at gofnod iechyd cleifion drwy Borth Clinigol Cymru. Mae hyn yn galluogi clinigwyr i weld manylion cleifion o unrhyw leoliad - y clinig, y swyddfa neu gartref, gan wneud ymgynghori o bell yn bosibl. 

Er mwyn cefnogi apwyntiadau rhithiwr, bydd 'taflen barhad cleifion allanol' yn galluogi'r clinigydd i gofnodi canlyniad yr apwyntiad ar-lein, heb fod angen defnyddio ffurflen bapur.

Gwnaethom ymuno â byrddau iechyd i 'gyflymu' y nodwedd newydd hon, a fydd yn barod ar gyfer Prawf Cadarnhad Defnyddiwr yn gynnar ym mis Ebrill.

Mae'n golygu y bydd yr ymgynghorydd yn gallu defnyddio Porth Clinigol Cymru, lle bynnag y mae, i gael mynediad at y rhestr glinigol, i adolygu cofnod y claf, i gofnodi manylion yr ymgynghoriad ac i gofnodi'r penderfyniad, gan gefnogi'r apwyntiad claf allanol rhithiwr cyflawn.

 

Caiff adroddiad ei lunio er mwyn galluogi staff cofnodion iechyd i olrhain y claf a diweddaru'n ôl-weithredol y System Gweinyddu Cleifion i sicrhau bod llwybr y claf yn cael ei gadw'n gyfredol.

 

I gefnogi'r gwaith o reoli cleifion yn barhaus yn yr amgylchiadau eithriadol hyn, rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda byrddau iechyd a chlinigwyr i archwilio ffyrdd y gall ymgynghoriadau weld eu 'Rhestr Apwyntiad Dilynol Heb Ei Drefnu' ar Borth Clinigol Cymru.  Bydd galluogi'r mynediad a'r gwelededd hwn yn helpu clinigwyr i wneud penderfyniad gwybodus am y cleifion y mae angen eu gweld ar frys a'r rhai y gellir eu haildrefnu oherwydd achos COVID-19.