Mae ceisiadau am brawf yn electronig ar gynnydd mewn practisiau meddygon teulu, gyda mwy o bractisiau’n defnyddio’r system dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r system ceisiadau am brawf mewn meddygon teulu (GPTR) yn caniatáu i staff mewn practisiau meddygon teulu wneud cais am brofion gwaed ar gyfer eu cleifion yn electronig, ac mae’n rhoi darlun llawnach i feddygon teulu o’u cleifion.
Esboniodd Ann-Marie Cunningham, meddyg teulu yn Sir Caerffili, a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Gofal Sylfaenol yng Ngwasanaeth Gwybodeg,
“Bydd unrhyw fanylion clinigol wedi’u cynnwys yn y cais yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad canlyniadau, gan wella ansawdd gwybodaeth, a fydd yn rhoi darlun llawnach i’r clinigydd o’r claf”
Gall gweithwyr iechyd proffesiynol weld canlyniadau o ofal sylfaenol ac eilaidd yn unrhyw le yng Nghymru a, gyda miloedd o brofion gwaed yn cael eu cynnal yng Nghymru bob wythnos, mae GPTR yn helpu i brosesu ceisiadau a chanlyniadau’n gynt.
Astudiaeth Achos: ‘Ceisiadau am Brawf yn Electronig mewn practisiau meddygon teulu’
Sut y gwnaeth meddygfa yng Nglynebwy lansio’r system Ceisiadau am Brawf yn Electronig
GPTR: Sut mae’n gweithio
Cyhoeddwyd: 13/02/20