Neidio i'r prif gynnwy

Mwy na miliwn o gofnodion cleifion digidol wedi'u rhannu rhwng byrddau iechyd yng Nghymru

Erbyn hyn, Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws holl ffiniau sefydliadol y byrddau iechyd i gael mynediad at wybodaeth ddigidol cleifion, sy'n caniatáu i wybodaeth ddilyn y claf ble bynnag yng Nghymru y darperir gofal.

Ym mis Ionawr, edrychwyd ar filiynfed canlyniad y prawf digidol rhwng byrddau iechyd trwy wasanaeth cofnodion cleifion digidol Cymru, Porth Clinigol Cymru. Mis Ionawr hefyd oedd y mis prysuraf hyd yma ar gyfer edrych ar wybodaeth cleifion y tu allan i'r ardal. Rhannwyd mwy na 49,000 o ganlyniadau profion rhwng y byrddau iechyd.

Daw'r garreg filltir hon fis ar ôl i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro ddod yn fwrdd iechyd olaf Cymru i fabwysiadu'r gwasanaeth adrodd ar ganlyniadau radioleg digidol, sydd ar gael trwy Borth Clinigol Cymru.

Golyga hyn y gall clinigwyr yn holl ysbytai Cymru bellach weld canlyniadau profion radioleg a phatholeg o bob rhan o Gymru mewn un lleoliad.

Mae cael mynediad at ganlyniadau a gynhyrchir mewn byrddau iechyd cyfagos yn arbed amser, yn llywio penderfyniadau clinigol, ac mae'n golygu bod angen llai o brofion a sganiau dyblyg ar gleifion.

"Mae cyrraedd y garreg filltir o edrych ar filiwn o ganlyniadau profion ar draws ffiniau byrddau iechyd Cymru yn dangos maint y gwerth y gellir ei greu pan fydd cynnyrch cenedlaethol yn cael ei weithredu'n llawn," dywedodd Griff Williams, Arweinydd Prosiect Porth Clinigol Cymru. "Nod ein cynllun ar gyfer y Cofnod Claf Sengl yw cynyddu lefel y gofal iechyd digidol sydd ar gael i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG, gan gynnwys canlyniadau endosgopi, gweithrediad yr ysgyfaint a geneteg."

System TG genedlaethol yw Porth Clinigol Cymru a grëwyd ac a adeiladwyd gan GIG Cymru. Trwy fewngofnodi unwaith yn unig, mae'n rhannu, yn darparu ac yn arddangos gwybodaeth am gleifion o nifer o ffynonellau sy'n helpu i wella cydweithrediad rhwng clinigwyr, ysbytai a chanolfannau iechyd eraill yng Nghymru.

27/02/2020