Neidio i'r prif gynnwy

Ffurflen newydd i gefnogi ymgynghoriadau cleifion allanol ar-lein

Lansiwyd ffurflen ddigidol newydd i alluogi GIG Cymru i gynnal lefelau adrodd ar ganlyniadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, wrth weithio o bell. Mae'r Daflen Parhad Cleifion Allanol wedi'i datblygu mewn ymateb i COVID-19 ac mae ar gael i glinigwyr trwy Borth Clinigol Cymru, y cofnod cleifion digidol.

Mae'r ffurflen yn caniatáu i glinigwyr gofnodi canlyniad ymgynghoriadau ac apwyntiadau sy'n digwydd ar-lein. Ar ôl ei mewnbynnu, mae'r wybodaeth hon wedyn yn ffurfio rhan o gofnod meddygol claf yn awtomatig.

Gall yr amrywiol weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â gofal claf gael mynediad at y ffurflen a'i diweddaru ar yr un pryd, sy'n golygu bod yr holl wybodaeth berthnasol yn cael ei chasglu mewn un lle.

Hyd yn hyn, mae'r Daflen Parhad Cleifion Allanol wedi mynd yn fyw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Mae'r daflen parhad cleifion allanol electronig wedi bod yn ddefnyddiol iawn dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi fy ngalluogi i ddogfennu apwyntiadau clinig rhithwir yn gyflym ac yn ddiogel wrth ffonio cleifion y tu allan i'r ysbyty. Dwi ddim yn meddwl y byddaf yn mynd yn ôl i ddefnyddio'r fersiwn bapur ar gyfer clinigau! Dr Owen Pickrell, Niwrolegydd Ymgynghorol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe