Neidio i'r prif gynnwy

Hwb ddigidol i fferylliaeth ysbytai

Mae ysbytai yng Nghymru ar fin cael system fferylliaeth uwch-dechnoleg newydd, fel rhan o gam cyntaf cynllun mawr i foderneiddio fferylliaeth a phresgripsiynu.

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi llofnodi contract saith mlynedd â chyflenwr meddalwedd WellSky International Ltd (WSI), sef JAC gynt, ar gyfer System Fferylliaeth Ysbytai Cymru gyfan, a fydd yn disodli’r feddalwedd 30 oed sy’n bodoli eisoes.

O'r chwith i'r dde: Phil Ransome, Prif Reolwr Prosiect NWIS, Colin Powell, Prif Fferyllydd ABUHB, Nigel Toms, Rheolwr Gwerthu Cenedlaethol WellSky, James Goddard, Arweinydd e-Bresgripsiynu mewn Ysbytai NWIS, Sophie Hanson-Jones, Rheolwr Cefnogi Prosiectau NWIS, Helen Thomas, Cyfarwyddwr Dros Dro NWIS, Robert Tysall-Blay, Prif Weithredwr Wellsky

 

Bydd y system fferylliaeth newydd yn gwella presgripsiynu cyfrifiadurol a rheoli stoc meddyginiaethau.

Dywedodd Colin Powell, Prif Fferyllydd – Gwasanaethau Acíwt yn Aneurin Bevan: “Bydd hyn yn ffordd newydd o weithio i fferyllfa’r ysbyty wrth gael data a phroses adrodd well i lywio gwasanaethau yn y dyfodol.”

Dywedodd Robert Tysall-Blay, Prif Weithredwr WellSky International, “Bydd prosiect Fferylliaeth Cymru Gyfan yn cynorthwyo newid trawsnewidiol ac yn darparu gwasanaeth gwell. Mae WellSky International yn falch iawn o weithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a’r gymuned fferylliaeth ehangach yng Nghymru ar y prosiect digidol cenedlaethol newydd cyffrous hwn."

Mae’r system fferylliaeth newydd yn fwy effeithlon i’w defnyddio ac yn cynnig ffordd fwy cyson a chydgysylltiedig o weithio ledled ysbytai yng Nghymru. Bydd yn cysylltu presgripsiynu meddyginiaeth a data ar ddefnydd gan ddefnyddio safonau a gydnabyddir yn genedlaethol. Bydd hyn yn caniatáu’r gallu i weld yr wybodaeth hon mewn amser real ac mewn modd mwy cynhwysfawr ledled Cymru.

Yn bwysicaf oll, er bod y system newydd yn darparu ei manteision pwysig ei hun i adrannau, clinigwyr a chleifion y fferyllfa, mae hyn hefyd yn cynrychioli cam cyntaf pwysig yn y daith i weithredu presgripsiynu electronig cenedlaethol a gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru; prosiect a fydd yn disodli presgripsiynau papur a chofnodion gweinyddol meddyginiaethau â system ddigidol er mwyn gwella prosesau a gwella diogelwch y claf.

Bydd system fferylliaeth newydd Cymru gyfan yn cael ei chyflwyno i holl ysbytai Cymru o ganol 2020, gyda phroses gaffael i ddilyn ar gyfer system e-bresgripsiynu.

Published: 12/02/2020