Neidio i'r prif gynnwy

System ddigidol yn cefnogi sgrinio canser y coluddyn

Mae meddalwedd a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi rhaglen sgrinio’r coluddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi lansio ymgyrch newydd gyda Bowel Cancer UK i annog rhagor o bobl gymwys i gael y prawf.

Mae data diweddar wedi canfod mai ychydig dros un o bob dau berson cymwys yng Nghymru sy’n cymryd y prawf ar hyn o bryd. Gall cymryd rhan yn y prawf sgrinio leihau’r perygl o farwolaeth yn sgil canser y coluddyn, a bydd cleifion naw gwaith yn fwy tebygol o oroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod yn gynnar.

Mae’r System Rheoli Gwybodaeth ar Sgrinio Coluddion (BSIMS) yn gymhwysiad diogel ar y we sy’n cefnogi’r broses sgrinio gyfan, drwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio. Mae pobl o 60 i 74 mlwydd oed yn gymwys i gael prawf sgrinio’r coluddyn yn rhad ac am ddim yn y GIG, a hynny bob dwy flynedd. 

Anfonir pecyn sgrinio yn y cartref drwy’r post i’r bobl gymwys sy’n cael eu gwahodd i brawf sgrinio. Yna, bydd y pecyn yn cael ei ddychwelyd a’i brofi yn labordai GIG Cymru. Bydd y labordai yn defnyddio BSIMS i ddilyn hynt y pecynnau, i gofnodi’r canlyniadau ac i gynhyrchu llythyrau canlyniadau. Bydd unrhyw un sydd â chanlyniad positif i’r prawf yn cael ei gyfeirio am ymchwiliadau pellach ac asesiad gan Ymarferwyr Sgrinio Arbenigol. Mae BSIMS yn cefnogi’r broses gyda modiwl archebu clinig ac mae’n darparu dyddiadur a ffurflen asesu ar-lein ar gyfer ymarferwyr sgrinio arbenigol.

Canser y coluddyn yw’r ail ganser mwyaf angheuol ymysg dynion a menywod yng Nghymru.  Bydd sgrinio’r coluddyn yn canfod canser y coluddyn yn gynnar, yn aml pan na fydd unrhyw symptomau, a phan fydd triniaeth ar ei mwyaf effeithiol.

Caiff y feddalwedd sgrinio coluddion a ddatblygwyd yng Nghymru ei defnyddio yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sgrinio’r coluddyn drwy ymweld â http://www.bowelscreening.wales.nhs.uk/hafan