Neidio i'r prif gynnwy

Hwb data COVID-19 ar gyfer GIG Cymru

Lansiwyd hwb data newydd sy'n cadw golwg ar ymateb GIG Cymru i bandemig COVID-19 gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. 

Bydd yn caniatáu i arweinwyr GIG Cymru a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddehongli data hanfodol gan bob bwrdd iechyd er mwyn deall y capasiti a'r galw am ofal i gleifion â COVID-19. 

Mae'r hwb data yn dwyn gwybodaeth ynghyd o lawer o wahanol ffynonellau GIG Cymru, gan ddarparu darlun cywir a llywio penderfyniadau ar staffio ac adnoddau. 

Mae'r data a ddangosir yn cynnwys apwyntiadau meddygon teulu, capasiti'r Adrannau Achosion Brys, galwadau ffôn i NHS 111, ystadegau ynghylch profion positif ar gyfer COVID-19, nifer a lleoliad gwelyau, a gwelyau sydd â pheiriannau anadlu. 

Mewn ymateb i sefyllfa sy'n newid, bydd yr hwb data yn cael ei ddatblygu a'i uwchraddio'n gyson. 
Dywedodd Rebecca Cook, Pennaeth Dylunio Gwybodaeth a Safonau'r Gwasanaeth Gwybodeg: “Dyma wasanaeth newydd a ddatblygwyd yn gyflym i helpu’r frwydr yn erbyn COVID-19. Y nod yw ei gwneud yn haws deall effaith y pandemig hwn ar lefel leol, genedlaethol ac ar lefel y DU. 

“Cedwir y data i gyd yn ein warws data diogel, gyda'r safonau uchaf o ran diogelu data.” 

Nid oes gwybodaeth iechyd cleifion unigol ar gael yn yr hwb data.

Darganfod mwy am Hwb Data COVID-19.