Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriadau Fideo Meddygon Teulu

Bydd meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn datrysiad Ymgynghoriad Fideo yn ystod mis Ebrill. Bydd y gwasanaeth Attend Anywhere yn cynorthwyo meddygon teulu yn ystod pandemig Covid-19.

Bydd Attend Anywhere yn rhoi mynediad fideo wyneb yn wyneb i feddygon teulu at bobl sy’n hunan-ynysu. Bydd yn helpu i amddiffyn staff rheng flaen rhag cael haint, ynghyd â gwiriwr symptomau ar-lein ac ymgynghoriadau ffôn 111. Bydd cynnal ymgynghoriadau o bell hefyd yn lleihau’r posibilrwydd y bydd cleifion sy’n mynd i bractisiau meddygon teulu yn cael eu heintio.

Mae pecyn adnoddau a deunyddiau hyfforddi yn cael eu creu ar hyn o bryd. Mae peilot bychan yn cael ei drefnu gyda nifer o bractisiau EMIS a Vision yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.