Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau gwrthgyrff i'w casglu o brofion Pwynt Gofal

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi’r gofyniad cynyddol i brofi am wrthgyrff COVID trwy hwyluso canlyniad gwrthgorff pwynt gofal newydd a gaiff ei gasglu’n electronig drwy systemau meddalwedd cenedlaethol, gan gynnwys System Pwynt Gofal Cymru a’r System Labordy Genedlaethol.
 
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn trosglwyddo canlyniadau yn electronig i sicrhau bod y data a gesglir yn hawdd eu gweld er mwyn eu gwerthuso ac y gellir eu defnyddio at ddibenion ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru os oes angen. Unwaith y bydd y 100 claf cyntaf wedi’u profi trwy ddefnyddio’r prawf gwrthgorff Pwynt Gofal newydd, caiff gwerthusiad ei gynnal i bennu perfformiad y prawf. Os caiff y prawf ei gymeradwyo ar gyfer defnydd clinigol ar ôl ei adolygu, bydd y canlyniadau ar gael i glinigwyr eu gweld ym Mhorth Clinigol Cymru.
 
Caiff y profion eu treialu i ddechrau yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Caerdydd a’r Fro ond, os cânt eu cymeradwyo, byddant yn cael eu cyflwyno’n gyflym iawn i fyrddau iechyd ledled Cymru.