Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth Covid-19 e-Lyfrgell GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal

Mae llawer o’r adnoddau ar e-Lyfrgell GIG Cymru wedi’u diweddaru i ddarparu gwybodaeth ddigidol ddefnyddiol ynglŷn â’r coronafeirws, Covid-19.

Mae gwefan yr e-Lyfrgell, sydd newydd ei datblygu, yn cynnwys amrywiaeth eang o ddolenni gan eu cyhoeddwyr a’u cyflenwyr megis GIG Cymru, Llywodraeth Cymru a Cholegau Brenhinol a Chymdeithasau i ddarparu cymorth ac arweiniad i’r rheiny sy’n gweithio i GIG Cymru y gellir cael mynediad atynt o bell. 

Gellir dod o hyd i’r newyddion diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu gwefan, yn ogystal â chrynodebau tystiolaeth ar arfer gorau a phapurau o ffynonellau credadwy. Mae dolenni wedi cael eu darparu ar gyfer The British Medical Journal (BMJ) sy’n rhoi mynediad at fodiwlau e-Ddysgu ar y coronafeirws, a gallwch hefyd wrando ar bodlediad BMJ “Talk Evidence” sy’n trafod creu sylfaen dystiolaeth ar gyfer Covid-19. 

Gall defnyddwyr gael mynediad ar unwaith at erthyglau cysylltiedig os ydynt yn defnyddio dyfais wedi’i rhwydweithio gan GIG Cymru, neu o’u cyfrif OpenAthens GIG Cymru. Os oes angen i chi gael mynediad at erthygl y tu allan i rwydwaith y GIG, cliciwch yma.