Neidio i'r prif gynnwy

15/03/22
System Imiwneiddio Cymru yn ennill gwobr effaith ddigidol genedlaethol

Mae’r system ddigidol y tu ôl i’r gwaith o gyflwyno brechiadau COVID-19 yng Nghymru, sef System Imiwneiddio Cymru (WIS), wedi derbyn Gwobr Dewis y Bobl mewn seremoni yn Llundain am ei heffaith yn ystod y pandemig.

17/02/22
System Imiwneiddio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Impact Awards

Mae'r gwobrau'n ddathliad o dechnoleg er gwell y DU. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Arloesedd yn ystod y Pandemig am y WIS, sy'n darparu'r gwaith o reoli, dosbarthu ac adrodd ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru.  

11/01/22
Cyfarwyddwyr Gweithredol Newydd yn ymuno â Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad dau gyfarwyddwr gweithredol newydd.

22/12/21
Fferyllwyr cymunedol yn cofnodi dros 160,000 o frechiadau ffliw tymhorol ar Dewis Fferyllfa

Mae'r cymhwysiad Dewis Fferyllfa ar gael mewn 98% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru i gefnogi fferyllwyr achrededig i ddarparu gwasanaethau clinigol gwell.

Fferyllwyr cymunedol yn cofnodi dros 160,000 o frechiadau ffliw tymhorol ar Dewis Fferyllfa
Fferyllwyr cymunedol yn cofnodi dros 160,000 o frechiadau ffliw tymhorol ar Dewis Fferyllfa
21/12/21
System Imiwneiddio Cymru yn ehangu er mwyn rhoi rhagor o bigiadau atgyfnerthu

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd pigiadau atgyfnerthu yn cael eu rhoi’n gynt, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cefnogi byrddau iechyd i greu 1 miliwn o apwyntiadau brechlynnau COVID-19 ychwanegol erbyn diwedd mis Rhagfyr.  

25/11/21
Desg Wasanaeth DHCW ar y rhestr fer ar gyfer gwobr a gydnabyddir yn fyd-eang

Mae tîm Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyrraedd rhestr fer y categori Desg Wasanaeth Gorau yng Ngwobrau Sefydliad y Ddesg Wasanaeth (SDI) eleni.

22/11/21
Canlyniadau profion endosgopi a broncosgopi Cwm Taf bellach ar gael ledled Cymru

Mae diweddariad i Borth Clinigol Cymru (WCP) yn golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru bellach yn gallu cael mynediad at gopïau digidol o ganlyniadau profion endosgopi a broncosgopi eu cleifion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

<br>
<br>
12/11/21
Cyhoeddiad masnachol: partner newydd i helpu i sbarduno rhaglen trawsnewid Digidol GIG Cymru

Sefydlwyd y rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd (DSPP) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gydlynu cyflwyno datrysiadau digidol a chymwysiadau iechyd a gofal yn gyflym i bobl Cymru. 

11/11/21
Nyrsio digidol yn cipio gwobr 'Prosiect Gofal Iechyd Gorau' yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU

Mae’r tîm y tu ôl i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi ennill ‘Prosiect TG Gorau’r Flwyddyn y Sector Gofal Iechyd’ yng Ngwobrau mawreddog Diwydiant TG y DU Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS).

21/10/21
Systemau digidol yn 'ganolog' wrth ddarparu rhaglen frechu flaenllaw Cymru

Mae ffigwr blaenllaw o raglen frechu COVID-19 Cymru wedi disgrifio sut mae mynediad at y gwasanaethau digidol a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi bod yn allweddol i’w roi ar waith yn llwyddiannus.

19/10/21
Cleifion yng Nghymru i gael budd o system labordy newydd

Bydd y Gwasanaeth System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) newydd yn rheoli dros 35 miliwn o brofion a brosesir gan yr 21 o labordai patholeg GIG Cymru bob blwyddyn

05/10/21
Datblygiad cyflym System Imiwneiddio Cymru yn hybu darpariaeth y brechlyn

Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi clywed sut mae graddfa a chyflymder gwaith datblygu hyblyg ar gyfer System Imiwneiddio Cymru yn “drawsnewidiad go iawn” ac yn “hanfodol i lwyddiant y rhaglen [brechu torfol Cymru]” yn ei gyfarfod bwrdd ym mis Medi.

22/09/21
Penodi cadeirydd newydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi i Simon Jones gael ei benodi gan Lywodraeth Cymru yn Gadeirydd ein bwrdd.