Neidio i'r prif gynnwy

Cynulleidfa gyda Thîm e-Ragnodi mewn Gofal Eilaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Fferyllydd yn dal pecynnau meddyginiaeth a photeli moddion

22 Mai 2023

Cynhelir digwyddiad dysgu allweddol i gefnogi cyflwyniad arfaethedig Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA) yn ysbytai GIG Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 25 Mai, 2023.

Gyda chyflwyniad technolegau newydd ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn un o’r newidiadau mwyaf ers degawdau, mae hwn yn ddigwyddiad dysgu hanfodol a fydd yn llywio gweithrediad gwasanaeth cwbl ddigidol a fydd yn gwneud rhagnodi, gweinyddu a dosbarthu meddyginiaethau mewn ysbytai yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon.

Mae'r gwaith i drawsnewid systemau yn cael ei arwain gan raglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA) y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.

Bydd y digwyddiad hanner diwrnod yn canolbwyntio ar ganfyddiadau gweithredu braenaru o ddatrysiad e-Ragnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau ar draws dau ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Bydd y tîm gweithredu o Fae Abertawe yn rhannu eu mewnwelediadau a'u profiadau am roi'r system ar waith a sut brofiad oedd hyn o safbwynt cynllunio, technegol, fferylliaeth, nyrsio a chlinigol.

Bydd dros 100 o bobl, a fydd yn ymwneud â gweithredu a defnyddio ePMA, yn mynychu'r digwyddiad i gael gwybodaeth a fydd yn helpu i ddefnyddio ePMA ar bob ward ledled Cymru.

Dywedodd Lesley Jones, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen ePMA Gofal Eilaidd: “Mae cyflawni trawsnewidiad digidol ar raddfa fawr yn dasg enfawr sy’n dibynnu ar gydweithio a phartneriaeth. Mae digwyddiadau fel hyn yn ein helpu i rannu’r hyn a ddysgir a deall y newidiadau sydd eu hangen a’r manteision a ddaw yn sgil datrysiad digidol i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.”

Dywedodd Tracey Bell, Pennaeth Cynllunio Digidol BIP Bae Abertawe ar gyfer Gofal wedi’i Gynllunio a Gofal Cymunedol: “Rydym wedi gweld sut mae defnyddio mwy o dechnoleg mewn gofal claf yn cael effaith gadarnhaol ac yn cefnogi clinigwyr a fferyllwyr. Mae'n helpu clinigwyr i gael y meddyginiaethau cywir i'r cleifion cywir ar yr amser cywir, sy'n rhan hanfodol o ofal claf. Mae hefyd yn rhoi data ar flaenau bysedd y clinigwr, gan wella prosesau gwneud penderfyniadau a diogelwch cleifion.”

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sy’n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn sicrhau manteision dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.