Neidio i'r prif gynnwy

Sbotolau ar Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru

3 Ebrill 2023

Gwahoddwyd Rachael Powell, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodaeth, Deallusrwydd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Rachel Gemine, Pennaeth Ymchwil ac Arloesi, i fod yn bresennol yn nigwyddiad BioCymru yn Llundain ar Mawrth 14 2023 fel siaradwyr gwadd i gyflwyno sesiwn ar 'Gweithio gyda GIG Cymru’ gan drafod trawsnewid digidol, cefnogi ymchwil ac arloesi trwy fynediad at ddata a phwysigrwydd partneriaethau effeithiol.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i dynnu sylw at ddatblygiadau technegol newydd yn GIG Cymru a Gwyddorau Bywyd Cymru. 
Dywedodd Rachael Powell, “Ar ôl cyhoeddi Strategaeth Ymchwil ac Arloesi Iechyd a Gofal Digidol Cymru, roedd yn wych ymuno â chydweithwyr ledled Cymru a phartneriaid diwydiant ac academaidd posibl i siarad am ein cynlluniau ar gyfer cydweithio i wella’r gwaith arloesi yng Nghymru trwy wella cyfleoedd data a digidol.”

Darparodd y digwyddiad rhad ac am ddim i holl aelodau MediWales a sefydliadau partner lwyfan unigryw ar gyfer datblygiadau arloesol newydd cyffrous a chwmnïau sy’n chwilio am fuddsoddiad a chydweithrediadau. Rhoddwyd cyflwyniadau hefyd gan amrywiaeth o gwmnïau o Gymru sydd ar gamau amrywiol o'u profiad fel buddsoddwyr. Roedd panel o fuddsoddwyr arbenigol hefyd yn bresennol.

Bydd Iechyda Gofal Digidol Cymru yn cyfrannu at Ddigwyddiad MediWales Connects yng Nghaerdydd ar  Mehefin 29 2023.