Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad 'cwrdd â'r cyflenwr' cenedlaethol ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau'n ddigidol mewn ysbytai

Medical equipment, like stethoscopes, pills and masks on a table with a digital screen, keyboard and mouse.

 

18 Mai 2023

Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cymryd rhan mewn digwyddiad arddangos cenedlaethol 'cwrdd â'r cyflenwr' ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol mewn ysbytai yng Nghymru ar 24 Mai 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sy’n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn sicrhau manteision dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.

Mae disgwyl i fwy nag 80 o bobl, o Ganolfan Ganser Felindre a byrddau iechyd ledled Cymru, gymryd rhan yn y fforwm diwrnod cyfan.  Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i glywed gan dri chyflenwr systemau Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) sydd wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio mewn ysbytai yng Nghymru.

Y cyflenwyr yw Better UK, System C (CareFlow gynt) a Nervecentre. Llwyddodd y tri chwmni i gael  contract fframwaith GIG Cymru ym mis Tachwedd 2022.

Mae'r gwaith i drawsnewid systemau rhagnodi a meddyginiaethau mewn ysbytai yn cael ei arwain gan raglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA) y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.

Pan gaiff ei chyflwyno, bydd defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf yn gwneud y broses gyfan o ragnodi, gweinyddu a dosbarthu meddyginiaethau mewn ysbytai yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon.

Dywedodd Lesley Jones, Uwch Swyddog Cyfrifol y rhaglen ePMA Gofal Eilaidd a Phennaeth Nyrsio ar gyfer safonau proffesiynol a digidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’r bobl a fydd yn defnyddio ac yn cyflwyno’r dechnoleg newydd yn ein hysbytai i ddysgu mwy am y datrysiadau digidol sydd ar gael ac i ddefnyddio’r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau lleol.

“Mae partneriaeth wrth galon y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol felly rydym yn falch iawn o allu cynnal y digwyddiad cwrdd â’r cyflenwr hwn.”