Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae angen gwasanaethau digidol ar y cyhoedd yng Nghymru?

Mae technoleg yn rhan fawr o'n bywydau. Mae llawer ohonom wedi bod yn siopa a bancio ar-lein ers amser maith. Mae pandemig Covid-19 wedi annog hyd yn oed mwy o bobl i fynd ar-lein i gael gwybodaeth iechyd, gwaith a chymdeithasu. 

Bydd y rhaglen DSPP yn cefnogi pobl i reoli eu hiechyd a'u gofal trwy eu ffonau clyfar a'u llechi, pan fo hyn yn addas iddyn nhw a'u gofynion gofal.  

Bydd y DSPP hefyd yn caniatáu inni integreiddio mentrau digidol presennol, megis ymgynghoriadau clinigol o bell, a datblygu cymwysiadau newydd. Bydd hyn yn rhoi'r offer digidol diweddaraf i bobl a gwell defnydd o'u data iechyd personol.