Neidio i'r prif gynnwy

02/07/24
Cofnodi'r 10 miliwnfed brechiad Covid yng Nghymru

Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) bellach wedi cyrraedd carreg filltir enfawr ac wedi cofnodi bod 10 miliwn o frechiadau wedi cael eu rhoi ledled Cymru.

28/03/23
Mae'r system brechu yn cefnogi 9 miliwn o bigiadau

Bydd System Imiwneiddio Cymru (WIS) a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi rhaglen brechiadau atgyfnerthu y Gwanwyn yng Nghymru a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill.

Mae system WIS wedi darparu 8.9 miliwn o frechiadau ers dechrau’r pandemig, ac wedi darparu 1.1 miliwn o frechiadau yn ystod rhaglen gaeaf 2022 rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. 

31/03/22
System Imiwneiddio Cymru yn cyrraedd carreg filltir o 7 miliwn o frechiadau

Mae dros saith miliwn o frechiadau bellach wedi'u rhoi yng Nghymru gyda chymorth System Imiwneiddio Cymru (WIS).

 

15/03/22
System Imiwneiddio Cymru yn ennill gwobr effaith ddigidol genedlaethol

Mae’r system ddigidol y tu ôl i’r gwaith o gyflwyno brechiadau COVID-19 yng Nghymru, sef System Imiwneiddio Cymru (WIS), wedi derbyn Gwobr Dewis y Bobl mewn seremoni yn Llundain am ei heffaith yn ystod y pandemig.

17/02/22
System Imiwneiddio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Impact Awards

Mae'r gwobrau'n ddathliad o dechnoleg er gwell y DU. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Arloesedd yn ystod y Pandemig am y WIS, sy'n darparu'r gwaith o reoli, dosbarthu ac adrodd ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru.  

21/12/21
System Imiwneiddio Cymru yn ehangu er mwyn rhoi rhagor o bigiadau atgyfnerthu

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd pigiadau atgyfnerthu yn cael eu rhoi’n gynt, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cefnogi byrddau iechyd i greu 1 miliwn o apwyntiadau brechlynnau COVID-19 ychwanegol erbyn diwedd mis Rhagfyr.  

21/10/21
Systemau digidol yn 'ganolog' wrth ddarparu rhaglen frechu flaenllaw Cymru

Mae ffigwr blaenllaw o raglen frechu COVID-19 Cymru wedi disgrifio sut mae mynediad at y gwasanaethau digidol a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi bod yn allweddol i’w roi ar waith yn llwyddiannus.

05/10/21
Datblygiad cyflym System Imiwneiddio Cymru yn hybu darpariaeth y brechlyn

Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi clywed sut mae graddfa a chyflymder gwaith datblygu hyblyg ar gyfer System Imiwneiddio Cymru yn “drawsnewidiad go iawn” ac yn “hanfodol i lwyddiant y rhaglen [brechu torfol Cymru]” yn ei gyfarfod bwrdd ym mis Medi.