Neidio i'r prif gynnwy

20/11/24
Contractwyr cyfarpar dosbarthu cyntaf bellach yn defnyddio'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru

Mae rhai cleifion sy’n defnyddio dyfeisiau meddygol ac offer a roddir ar bresgripsiwn bellach yn gallu cofrestru ar gyfer gwasanaeth cyfleus, yn dilyn profion llwyddiannus gan nifer o gontractwyr cyfarpar yng Nghymru. 

15/11/24
Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn dathlu blwyddyn yng Nghymru

Mae gwasanaeth sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a staff gofal iechyd yn dathlu ei flwyddyn gyntaf yng Nghymru. 

14/11/24
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn y rownd derfynol ar gyfer dwy Wobr Diwydiant TG y DU

Roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer dwy wobr neithiwr (13 Tachwedd) yn nigwyddiad blynyddol mawreddog Gwobrau Diwydiant TG y DU.

12/11/24
Dangosfwrdd digidol newydd yn rhoi mewnwelediadau allweddol ar weithdrefnau asgwrn cefn ar draws GIG Cymru

Mae dangosfwrdd digidol newydd yn ei gwneud hi’n haws i glinigwyr gael mewnwelediadau allweddol ar driniaethau asgwrn cefn ar draws GIG Cymru.

05/11/24
Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio i ddatblygu datrysiadau iechyd digidol

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dod ynghyd i hybu datblygiadau gofal iechyd yng Nghymru trwy arloesi digidol.

04/11/24
Canmoliaeth i dîm cyfathrebu Moddion Digidol mewn digwyddiad gwobrwyo cenedlaethol

Mae’r tîm y tu ôl i ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith cleifion a staff gofal iechyd am y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru wedi’i ganmol mewn seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog. 

21/10/24
Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg (ALP) 2025: Grymuso'r Genhedlaeth Nesaf o Ddadansoddwyr

Mae'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) wedi lansio ALP 2025, gan gynnig ffrydiau wedi'u teilwra i ddatblygu sgiliau dadansoddeg, gyda ffocws ar AI, dysgu peiriant, a Google Cloud Platform.

16/10/24
Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru

Lansiwyd y gwasanaeth yn y Rhyl, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fis Tachwedd diwethaf ac mae’n cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl.

11/10/24
IGDC yn cefnogi ehangu Sgrinio Canser y Coluddyn

Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi ehangu’r Rhaglen Sgrinio Coluddion yng Nghymru i oedrannau iau. 

03/10/24
Datrysiad digidol yn darparu golwg unedig o system gweinyddu cleifion

Mae datblygiad digidol newydd wedi galluogi golwg unedig o ddata a gedwir mewn systemau gweinyddu cleifion (PAS) ledled Cymru am y tro cyntaf.

01/10/24
Mae Digwyddiad Data Mawr yn arddangos dyfodol cydweithio data

Digwyddiad Data Mawr yn archwilio cydweithio fel yr allwedd i ddatgloi pŵer data wrth chwyldroi gwasanaethau cyhoeddus.

30/09/24
Bydd gwasanaeth digidol newydd yn symleiddio mynediad at driniaeth ddeintyddol arferol y GIG ledled Cymru

Bydd gwasanaeth digidol newydd sy’n cael ei lansio yr hydref hwn yn canoli’r broses ar gyfer cael mynediad at ofal arferol gan ddeintydd GIG i bobl ledled Cymru.

27/09/24
Dau o Weithredwyr IGDC yn rownd derfynol Digital Leaders 100

Dau o swyddogion gweithredol DHCW wedi’u henwi yn rownd derfynol categori Arweinydd Digidol y Flwyddyn Gwobrau Arweinwyr Digidol 2024 100 (DL100).

26/09/24
Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig wedi dosbarthu 100,000 o eitemau presgripsiwn yng Nghymru

100,000fed eitem presgripsiwn wedi'i ddosbarthu ar ôl cael ei anfon yn electronig o bractis meddyg teulu i fferyllfa.

25/09/24
Dadansoddwyr Data IGDC yn chwarae rhan bwysig yng nghynllun gweithredu Blood Cancer UK

 

Mae adroddiad polisi’r DU nodedig sy’n nodi argymhellion i wella gofal a goroesiad canser y gwaed wedi elwa ar fewnbwn arbenigol gan ddadansoddwyr data yn IGDC. 

23/09/24
Gwybodegwyr clinigol IGDC yn rhannu persbectif Cymreig yn NI2024

Cymerodd Fran Beadle, Beverley Havard, Anne Watkins, Sian Thomas ac Abi Swindail ran yn y digwyddiad ym Manceinion. Thema’r gyngres eleni oedd arloesi mewn gwybodeg nyrsio gymhwysol.

19/09/24
Prosiect darganfod yn nodi saith blaenoriaeth ar gyfer iechyd meddwl

Mae ail gam prosiect darganfod iechyd meddwl wedi nodi saith blaenoriaeth allweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

17/09/24
PharmacyX i brofi ei feddalwedd presgripsiynau electronig i'w defnyddio yng Nghymru

Mewn hwb pellach i’r defnydd o’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, cyhoeddir PharmacyX fel y cyflenwr technoleg gofal iechyd diweddaraf i helpu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyflawni’r newid cyffrous hwn. 

12/09/24
Cydweithrediad yn sicrhau cynhwysiant digidol yn Sir Ddinbych

Mae pobl yn Sir Ddinbych yn ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio offer digidol fel Ap GIG Cymru.

10/09/24
Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn mynd yn fyw ym Mhowys

Mae cleifion mewn cymuned ym Mhowys yn elwa o ragnodi haws a mwy diogel, diolch i wasanaeth sy’n anfon presgripsiynau’n electronig o’u practis meddyg teulu i fferyllfa neu ddosbarthwr o’u dewis.