Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu dangosfwrdd gofal lliniarol a gofal diwedd oes

02 Mawrth 2026

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn cefnogi'r uchelgais genedlaethol i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella mynediad at ofal lliniarol a gofal diwedd oes o safon, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol.

Gan weithio mewn partneriaeth agos â'r Rhaglen Gofal Lliniarol a Diwedd Oes, mae IGDC yn galluogi dull sy'n seiliedig ar ddata sy'n helpu'r system i ddeall anghenion, canlyniadau a phrofiadau cleifion yn well yn ystod blwyddyn olaf bywyd.

Yn ganolog i'r cydweithrediad hwn mae datblygu Dangosfwrdd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes pwrpasol, wedi'i gynllunio i roi mewnwelediadau amserol ac ymarferol i'r tîm clinigol cenedlaethol. Mae'r dangosfwrdd yn cefnogi cynllunio ac ailgynllunio gwasanaethau drwy gynnig golwg genedlaethol gyson o weithgarwch, canlyniadau ac amrywiad, gan helpu i hyrwyddo gofal mwy teg a chydlynol ledled Cymru.

Drwy’r rhaglen ar y cyd hon, mae IGDC wedi gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu a chyflwyno offer digidol, llwybrau data ac allbynnau dadansoddol, gan gynnwys:

  • Creu llwybr Mesurau Canlyniadau a Adroddwyd gan Gleifion (PROMs), gan gynnwys y mesur canlyniad gofalwyr cyntaf a ddatblygwyd ar gyfer y boblogaeth hon, gan alluogi cipolwg cyfoethocach a mwy ystyrlon ar brofiadau cleifion a gofalwyr.
  • Integreiddio delweddiadau PROM o fewn Porth Clinigol Cymru, gan gefnogi clinigwyr i ddefnyddio canlyniadau a adroddir gan gleifion yn uniongyrchol o fewn lleoliadau gofal.
  • Datblygu allbynnau tystiolaeth cadarn, gan gynnwys dwy lawysgrif academaidd sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio PROMs a mewnwelediadau o flwyddyn olaf bywyd, cryfhau'r sylfaen dystiolaeth a llywio gwelliant gwasanaeth cenedlaethol.

Mae dangosfyrddau, gwasanaethau data ac arbenigedd dadansoddol IGDC yn parhau i gyd-fynd â’r gwaith hwn, gan sicrhau bod gan glinigwyr, timau rhaglenni a gwneuthurwyr penderfyniadau fynediad at wybodaeth amserol o safon. Mae hyn yn cefnogi darparu gofal lliniarol a diwedd oes tosturiol, wedi'i gydgysylltu'n dda i bobl ledled Cymru.

 

Dilynwch ni: