Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg a phobl yn dod at ei gilydd yng Nghysylltathon Caerdydd

Yn gynharach y mis hwn, cynhaliodd Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru a NHS Digital 'Cysylltathon' dros ddau ddiwrnod yn Stadiwm Dinas Caerdydd. 

Darparodd y Cysylltathon, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, arweiniad a gwybodaeth i'r rhai sy'n rheoli a defnyddio systemau cod cymhleth megis SNOMED CT, yn ogystal â systemau cod iechyd a gofal cymdeithasol eraill. Mae'r gynhadledd yn tynnu sylw at y ffyrdd gorau o rannu a defnyddio'r termau a'r codau a ddefnyddir i gynrychioli data gofal.

Dywedodd nifer o'r cyflwynwyr a'r rhai oedd yn bresennol fod y digwyddiad yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol iawn. Dywedodd Rebecca Cook, Pennaeth Safonau Gwybodaeth, pa mor falch oedd hi gyda'r nifer oedd yn bresennol a bod Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wrth ei fodd yn cynnal y Cysylltathon "mwyaf eto."

Roedd cynrychiolwyr o asiantaeth ymchwil gwyddoniaeth genedlaethol Awstralia a Sefydliad Ymchwil Gwyddonol a Diwydiannol y Gymanwlad (CSIRO) hefyd yn bresennol. Dywedodd Pennaeth Ymchwil Gwybodeg Iechyd CSIRO, Michael Lawley, a siaradodd yn y digwyddiad, ei fod wedi'i "syfrdanu a'i gyffroi gan lefel brwdfrydedd ac ymgysylltiad y rhai oedd yn bresennol."