Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Dewis Fferyllfa yn Ennill Gwobr am ei Waith Stiwardiaeth Ddiagnostig

12 Mehefin 2023

Mae gwaith tîm Dewis Fferyllfa yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi’i gydnabod yng Ngwobrau Antibiotic Guardian. 

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, enillodd y tîm y Wobr Stiwardiaeth Ddiagnostig am ei werthusiad o wasanaeth profi a thrin dolur gwddf (STTT) mewn fferyllfeydd cymunedol.

Mae STTT yn wasanaeth rhad ac am ddim ac mae dros 134 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn cynnig y gwasanaeth.  Gall pobl gael cyngor am eu symptomau, cael asesiad ac os oes angen cael swab gwddf, a elwir hefyd yn brawf pwynt gofal (POCT). Yna gall fferyllwyr gynnig y driniaeth gywir. Gall hyn gynnwys cymryd gwrthfiotigau neu feddyginiaeth lleddfu poen.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn 2018, mae’r gwasanaeth bellach yn cael ei gyflwyno ar draws holl fyrddau iechyd Cymru. Sefydlodd tîm Dewis Fferyllfa brosiect i fesur effaith y gwasanaeth yn dilyn ei gyflwyno'n genedlaethol. Tynnodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) sylw at y ffaith bod angen gwneud mwy o ymchwil hefyd i ystyried rôl profion pwynt gofal mewn fferyllfeydd cymunedol, ac fe gafodd hyn ei gynnwys yn y prosiect.

Dros gyfnod o 16 mis, echdynnwyd a dadansoddwyd data o dros 11,000 o ymgynghoriadau o gofnodion fferylliaeth electronig, sy’n golygu mai hon yw un o’r astudiaethau mwyaf o’i bath yn y byd. Dangosodd y canlyniadau fod mwy nag 20% o'r ymgynghoriadau a gynhaliwyd wedi arwain at gyflenwi gwrthfiotigau, sy’n is na chanran y bobl sy’n cael gwrthfiotigau fel arfer yn ôl astudiaethau eraill.

Yn ystod pandemig COVID-19, nid oedd profion pwynt gofal arferol a oedd fel arfer yn dilyn asesiad ar gael. Roedd y tîm yn gallu cymharu’r effaith ar ddarparu gwrthfiotigau pan ataliwyd y gofynion profi yn ystod COVID-19 â'r data cyn y pandemig. Dangosodd yr astudiaeth bod cynnydd o 27% o ran darparu gwrthfiotigau pan ataliwyd y profion. Dangosodd rhagor o ddata, y gallai defnyddio prawf pwynt gofal arwain at ddarparu hyd at 47 o gyrsiau gwrthfiotig yn llai am bob 1,000 o ymgynghoriadau profi a thrin dolur gwddf a gynhelir. Arweiniodd hyn at ailgyflwyno’r profion ym mis Rhagfyr 2021.

Dywedodd Dr Efi Mantzourani, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso yn DHCW a Darllenydd mewn Ymarfer Fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r wobr yn dathlu gwaith caled tîm rhyngddisgyblaethol a ddaw o DHCW a Phrifysgol Caerdydd ac yn adeiladu ar y dystiolaeth yr ydym wedi’i darparu i Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud â rôl diagnosteg a sut mae o fudd i wasanaethau fferyllol. Rydym wrth ein bodd bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod, a byddwn yn parhau i weithio ar y prosiect. Mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Treialon Ymchwil, rydym ar hyn o bryd yn archwilio effaith ehangach y gwasanaeth ar ddefnyddio adnoddau’r GIG a rôl y gwasanaeth yn ystod brigiad yr achosion Strep-A yn ystod gaeaf 22/23.”

Mae tîm Dewis Fferyllfa yn parhau i ddatblygu’r prosiect, gan gydweithio’n barhaus gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd. Mae astudiaeth ar y gweill sy'n cysylltu data fferyllfeydd, ysbytai a meddygon teulu fel ei fod yn dilyn cleifion at eu teithiau ac yn mesur y canlyniadau.