Neidio i'r prif gynnwy

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol yn lansio fideo animeiddiedig newydd

19en Gorffenaf 2023

Mae’r ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhagnodi, eu dosbarthu a’u gweinyddu yng Nghymru yn newid – ac mae’r tîm sy’n arwain y gwaith cyffrous hwn wedi creu fideo animeiddiedig newydd i helpu cleifion, y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddeall y manteision a ddaw yn sgil hyn.

Mae'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yn dwyn ynghyd pedair rhaglen a phrosiect a fydd yn cyflawni dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.

Bydd ffyrdd digidol o weithio yn trawsnewid gofal cleifion a gwasanaethau drwy ddisodli’r prosesau papur a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn ysbytai, meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol.

Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd y broses gyfan yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithiol ac yn effeithlon, i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Swyddog Cyfrifol DMTP:

“Mae pob un ohonom yn falch iawn o’r gwaith yr ydym yn ei wneud yn y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol i wneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yng Nghymru yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ddigidol.

Ar ôl blwyddyn, rydym yn gwneud cynnydd mawr. Felly mae'n bryd dweud wrth bawb am y manteision a ddaw yn sgil yr holl waith hwn! Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, beth am wylio ein fideo byr, sy’n egluro beth rydym yn ei wneud ar draws y Portffolio i wneud gwahaniaeth i ofal cleifion a gwasanaethau.

Gwyliwch y fideo Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol: