Neidio i'r prif gynnwy

Nodyn ymgynghoriad diabetes yn newid tirwedd ar gyfer cleifion diabetes

15 Mehefin 2023

Mae cofnod electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cleifion diabetes yn mynd o nerth i nerth. Mae dros 6,000 o nodiadau ymgynghoriad Diabetes (DCN) yn cael eu creu bob mis ac mae mwy na 150,000 o DCNs wedi’u creu ers ei lansio yn 2019.

Mae'r DCN yn darparu mynediad amser real i'r holl wybodaeth am ofal diabetes ar un platfform ym Mhorth Clinigol Cymru.  Mae'n gwella ansawdd a diogelwch gofal trwy leihau'r achosion o ddyblygu profion, triniaethau ac apwyntiadau, ac yn caniatáu mynediad cyflymach at ddata i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Dywedodd Greeshma Sibi, Prif Nyrs Arbenigol Diabetes yn Ysbyty Treforys, fod y DCN “yn sicrhau bod pawb sy’n ymwneud â thaith gofal claf yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth angenrheidiol, gan hwyluso gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig a chydweithredol.”

Mae'r DCN yn rhan o Ddatrysiad Gwybodaeth Cymru ar gyfer Rheoli Diabetes (WISDM), ynghyd â Diabetes View sy'n grynodeb darllen-yn-unig sengl o wybodaeth allweddol y claf am ddiabetes a phrofion. Mae DCNs wedi cael eu gweld dros 270,000 o weithiau ac yn cael eu defnyddio gan ymgynghorwyr, nyrsys, podiatryddion, dietegwyr, obstetryddion a gynaecolegwyr yn ogystal â chynorthwywyr gofal iechyd a staff gweinyddol. Mae’r nifer yn cynnwys byrddau iechyd a all weld y nodiadau ond nad ydynt yn fyw eto i’w creu.

Dywedodd Emma Barker, Deietegydd Arweiniol Gwasanaeth Diabetes ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “I ni fel tîm mae WISDM wedi bod yn hynod fuddiol. Rydym yn gallu gweld yr wybodaeth gyfredol gan y timau diabetes amlddisgyblaethol eraill, mae hyn yn ein helpu yn ein hasesiadau gan sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau’r gofal gorau i gleifion.”

Mae’r DCN ar hyn o bryd yn fyw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Bydd rhyddhadau sydd i ddod yn gweld y DCN yn darparu'r cofnod diabetes llawn trwy gydol oes y claf trwy gyflwyno tab adolygiad pediatrig.

Dywedodd Dr Swe Lynn ac Yvonne Davies, o’r Adran Bediatreg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Mae’r platfform yn symleiddio’r cyfathrebu rhwng gofal eilaidd a gofal sylfaenol. Yn y dyfodol, rydym hefyd yn gobeithio defnyddio fersiwn pediatrig y platfform fel cronfa ddata ar gyfer Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol.”

Mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau y gellir bwydo data o'r DCN yn ôl i'r byrddau iechyd trwy ddetholiad data a dangosfwrdd ystadegau. Bydd hyn yn rhoi’r gallu i fyrddau iechyd fonitro a gwella canlyniadau cleifion a chefnogi archwiliadau diabetes cenedlaethol ac ymchwil a threialon sy’n ymwneud â diabetes.