Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a gofal digidol dan sylw mewn dau ddigwyddiad i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed

30 Mehefin 2023

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn edrych ymlaen at arddangos eu gwaith mewn dwy gynhadledd a digwyddiad cenedlaethol sydd ar ddod i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 75 oed.

Ar 5 a 6 Gorffennaf, byddwn yn cymryd rhan mewn cynhadledd a drefnwyd gan Gomisiwn Bevan - Y Pwynt Tyngedfennol:  Lle nesaf i iechyd a gofal?

Bydd y gynhadledd a gynhelir yn y Celtic Manor, Casnewydd, yn dod â thua 400 o arbenigwyr rhyngwladol ac uwch arweinwyr ynghyd i gynnal sgyrsiau am ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru a’r camau sydd eu hangen i ailadeiladu a gweld ffyniant yn systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y byd modern.

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn cynnal sesiwn grŵp 40 munud ar gyfer cynrychiolwyr am 3.00pm ar yr ail ddiwrnod (6 Gorffennaf).

Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar sut y gall defnyddio technoleg ddigidol fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal a thrawsnewid gofal a phrofiadau cleifion.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol:

“Mae’n bryd i ni feddwl a gweithredu’n wahanol. Mae’r GIG yn wynebu heriau digynsail a gall technoleg ddigidol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’u goresgyn.

Gall gwasanaethau digidol, fel y gwaith rydym yn ei wneud yn y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sicrhau gofal mwy diogel, effeithlon ac effeithiol. Gall gefnogi pobl i reoli eu hiechyd eu hunain yn well a gall gefnogi clinigwyr i wneud eu gwaith yn haws.”

 

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a Phortffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yn cymryd rhan yn arddangosfa Dyfodol Iechyd a Gofal Cydffederasiwn GIG Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd hefyd ar 5 Gorffennaf.

Bydd DMTP yn rhannu ei waith uchelgeisiol i ddarparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal. Bydd hyn yn gwella gwasanaethau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.

Bydd cydweithwyr o’r Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd yn ymuno â ni yn y digwyddiad ac yn rhannu’r newyddion diweddaraf am ddatblygiad ap newydd GIG Cymru a’r Adnodd Data Cenedlaethol sy’n blatfform data ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru.

Bydd y dathliadau pen-blwydd y GIG yn 75 oed yn y Senedd yn cael eu hagor gan Darren Hughes, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, a bydd prif gyflwyniad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford AS. 

Dywedodd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru:

“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r ddau ddigwyddiad. Mae gwneud mwy o ddefnydd o ddigidol yn y ffordd orau bosibl yn gam hanfodol yn y broses trawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru. “