Neidio i'r prif gynnwy

Graddedigion Cyntaf yn dathlu Rhaglen Cenhadon Newid

13 Gorfennaf

Cwblhaodd y Rhaglen Cenhadon Newid sydd dan arweiniad DHCW ei digwyddiad graddio cyntaf yr wythnos diwethaf ac mae dros 40 o fyfyrwyr wedi graddio’n llwyddiannus ac yn rhannu eu straeon am sut mae’r rhaglen wedi eu helpu i arwain newid.

Mae'r cwrs yn dysgu egwyddorion newid mewn sefydliad i gyfranogwyr, a sut y gallant ddylanwadu arno.  Maent yn dysgu damcaniaethau ac ymarfer rheoli newid trwy strwythurau a thrafodaethau ystyrlon o fewn gweithdai rhyngweithiol.

Wrth agor y digwyddiad - a gynhaliwyd ar ben-blwydd sefydlu’r GIG yn 75 oed - dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW, “Bydd yr heriau ar gyfer dyfodol y GIG yn amrywiol wrth i’r GIG orfod newid ac addasu, ac mae digidol yn mynd i effeithio ar bob agwedd arno, felly nid yw erioed wedi bod yn bwysicach deall beth sydd ei angen i fabwysiadu’r newidiadau hynny.”

Siaradodd y graddedigion am sut roedd yr wybodaeth o'r cwrs wedi eu helpu i roi newid ar waith yn llwyddiannus. Dywedodd Rhian Davies, Rheolwr Gwella Gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, “Mae wedi fy ngalluogi i fynegi’r newid rwy’n ei gynnig yn well, ac i arwain a chefnogi fy rhanddeiliaid a’m cydweithwyr drwy’r gwahanol emosiynau a sefyllfaoedd a wynebir o ganlyniad i newid. Bellach rwy’n gallu adnabod y gwahanol gymhellion a’r dulliau cyfathrebu sydd orau gan eraill er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl i bawb dan sylw.”

Lansiwyd y Rhaglen Cenhadon Newid (CAP) yn 2022 ac fe’i noddir gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru (WIDI). Dywedodd yr Athro Wendy Dearing, Deon Sefydliad Rheolaeth ac Iechyd PCYDDS, “Dyma enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth go iawn, ysgogi newid, a grymuso pobl. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i weithio gyda phartneriaid a sicrhau bod ein rhaglenni’n gyfoes ac yn adlewyrchu cyd-destun y ‘byd go iawn’, ac nid yw hyn yn eithriad.”

Wrth annerch y gynulleidfa, dywedodd Mike Emery, Prif Swyddog Digidol ac Arloesi (Iechyd a gofal) Llywodraeth Cymru, “Chi yw’r llysgenhadon newid a fydd yn helpu i ysgogi’r newid y bydd ei angen yn y GIG. Mae’n ysbrydoledig eich bod wedi dod at eich gilydd i gofleidio newid ac i ddod â phobl gyda chi ar y teithiau hynny.”

Cynhelir dwy raglen CAP bob blwyddyn, ac mae pob un yn cynnwys 12 modiwl a gyflwynir bob yn ail wythnos.  Mae’r cwrs yn agored i holl staff GIG Cymru, a gweithwyr ehangach y sector cyhoeddus, gan gynnwys rhai o staff Llywodraeth Cymru. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â change.ambassador@wales.nhs.uk 

Mae mwy o gyrsiau, sy'n dilyn yr un model â CAP, yn y broses o gael eu datblygu ym maes 'hyfforddi a mentora' a 'chyflawni rhagoriaeth gwasanaeth'.