Neidio i'r prif gynnwy

Cerdded gyda Balchder: Gorymdaith Pride Cymru

15 Mehefin 2023

Ddydd Sadwrn 17 Mehefin bydd pobl o bob rhan o GIG Cymru yn gorymdeithio drwy Ganol Dinas Caerdydd i ddathlu mis Balchder. Fe wnaethom ofyn i aelodau staff DHCW pam eu bod yn cymryd rhan yn yr orymdaith, a dyma oedd eu hymateb.

 

"Mae Balchder i mi yn ddathliad o bwy ydw i fel unigolyn. Mae'n ymwneud â’r gallu i werthfawrogi ein hunain a'r rhai o'n cwmpas ni, bod yn weladwy ac yn falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni fel unigolyn, a'r hyn rydyn ni'n parhau i'w gyflawni ar draws ein cymuned LHDTCRhA+. Mae’r Orymdaith Pride eleni’n un arbennig i mi, gan mai dyma’r tro cyntaf i mi gerdded yn yr orymdaith nid yn unig i DHCW a GIG Cymru (y llynedd roeddwn ar draeth yn yfed pinna coladas!), ond i rannu’r dathliad hwn o gariad a bod yn gwiar gyda fy mhartner, sy'n mynychu ei Pride cyntaf erioed. Mae hyn yn llenwi fi â chymaint o gariad, hapusrwydd a chyffro. Allwn ni ddim aros am ein dêt gyda Sophie Ellis-Bextor yn y Castell nos Sadwrn!"

Nathan Stone, Rheolwr Prosiect Technegol
 

"Y llynedd oedd fy mhrofiad cyntaf o’r Orymdaith Pride a waw, am ddiwrnod! Nid oedd wedi fy siomi. Roeddwn i wrth fy modd, roedd awyrgylch bendigedig ac roedd cymaint o bobl wedi dod ynghyd i ddathlu #UniqueandUnited. Roedd digwyddiad y llynedd yn ymwneud â dathlu ein hunaniaethau unigol a dangos undod a chefnogaeth i bob rhan o'n cymuned LHDTC+. Rwyf wir yn edrych ymlaen at y digwyddiad eleni a gweld cydweithwyr a ffrindiau yno."

Sarah Brooks, Arweinydd Datblygu Sefydliadol, Diwylliant ac Ymgysylltu
 

"Rwy’n cymryd rhan yng Ngorymdaith Pride eleni oherwydd rwyf am ddangos cefnogaeth i bawb sy’n nodi eu bod yn LHDTC+, dathlu cynhwysiant a derbyniad, a bod yn rhan o rywbeth sy’n dangos bod pawb yn haeddu cael eu parchu am bwy ydyn nhw heb orfod cuddio."

Alex Richards, Swyddog Datblygu Meddalwedd

 

"Pan ddechreuais fynd i orymdeithiau Pride yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill ledled y DU fel Bryste a Manceinion, roeddwn i yno fel gwyliwr i gefnogi gweddill y gymuned LHDTC+.

Fodd bynnag, yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth i mi ddod yn fwy cyfforddus yn mynegi pwy ydw i, rwy’n teimlo cyfrifoldeb i helpu eraill nad ydynt efallai yn yr un sefyllfa â mi.

Y gobaith yw y bydd cerdded drwy strydoedd y ddinas rwy’n byw ynddi a bod yn falch o bwy ydw i, yng nghwmni miloedd o bobl eraill sy’n teimlo’r un peth, yn helpu rhywun arall sy’n gwylio i ddod yn fwy cyfforddus yn mynegi pwy ydyn nhw pan fyddant yn teimlo’n barod."

Liam Gilsenan, Uwch Swyddog Cyfathrebu