Neidio i'r prif gynnwy

20/11/24
Contractwyr cyfarpar dosbarthu cyntaf bellach yn defnyddio'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru

Mae rhai cleifion sy’n defnyddio dyfeisiau meddygol ac offer a roddir ar bresgripsiwn bellach yn gallu cofrestru ar gyfer gwasanaeth cyfleus, yn dilyn profion llwyddiannus gan nifer o gontractwyr cyfarpar yng Nghymru. 

15/11/24
Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn dathlu blwyddyn yng Nghymru

Mae gwasanaeth sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a staff gofal iechyd yn dathlu ei flwyddyn gyntaf yng Nghymru. 

14/11/24
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn y rownd derfynol ar gyfer dwy Wobr Diwydiant TG y DU

Roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer dwy wobr neithiwr (13 Tachwedd) yn nigwyddiad blynyddol mawreddog Gwobrau Diwydiant TG y DU.

04/11/24
Canmoliaeth i dîm cyfathrebu Moddion Digidol mewn digwyddiad gwobrwyo cenedlaethol

Mae’r tîm y tu ôl i ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymhlith cleifion a staff gofal iechyd am y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru wedi’i ganmol mewn seremoni wobrwyo genedlaethol fawreddog. 

16/10/24
Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig bellach ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru

Lansiwyd y gwasanaeth yn y Rhyl, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fis Tachwedd diwethaf ac mae’n cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl.

26/09/24
Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig wedi dosbarthu 100,000 o eitemau presgripsiwn yng Nghymru

100,000fed eitem presgripsiwn wedi'i ddosbarthu ar ôl cael ei anfon yn electronig o bractis meddyg teulu i fferyllfa.

17/09/24
PharmacyX i brofi ei feddalwedd presgripsiynau electronig i'w defnyddio yng Nghymru

Mewn hwb pellach i’r defnydd o’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, cyhoeddir PharmacyX fel y cyflenwr technoleg gofal iechyd diweddaraf i helpu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyflawni’r newid cyffrous hwn. 

10/09/24
Y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn mynd yn fyw ym Mhowys

Mae cleifion mewn cymuned ym Mhowys yn elwa o ragnodi haws a mwy diogel, diolch i wasanaeth sy’n anfon presgripsiynau’n electronig o’u practis meddyg teulu i fferyllfa neu ddosbarthwr o’u dewis.

04/09/24
IGDC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod IGDC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2024.

03/09/24
Bydd system ddigidol newydd yn gwella gofal i gleifion ac yn arbed amser i staff

Mae cynlluniau i gyflwyno system bresgripsiynau electronig newydd yn holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw (Dydd Mawrth, 3 Medi 2024) gyda’r cyhoeddiad bod y bwrdd iechyd wedi dewis Nervecentre fel ei gyflenwr technoleg.

28/08/24
Mwy o gleifion yng Ngogledd Cymru yn elwa o'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig

Mae cleifion mewn tair cymuned yng Nghonwy yn elwa o’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) wrth i’r gwaith o’i gyflwyno gyflymu yng ngogledd Cymru. 

13/08/24
Gwaith darparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yn cyflymu yng Nghymru

Mae’r gwaith o ddarparu gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) yng Nghymru yn cyflymu. Mae’r pedwerydd cyflenwr system fferylliaeth wedi cael cymeradwyaeth i gyflwyno ei feddalwedd yn ei fferyllfeydd cymunedol.

31/07/24
Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol yn gweld Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ar waith

Ymwelodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru, â phractis meddyg teulu a fferyllfa yng Nghaerffili heddiw i ddarganfod sut mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) o fudd i gleifion a staff gofal iechyd.

01/07/24
Cymeradwyo Positive Solutions i gyflwyno meddalwedd rhagnodi electronig yng Nghymru

Positive Solutions yw’r trydydd cyflenwr i dderbyn caniatâd i ddefnyddio ei dechnoleg Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru.

28/06/24
Technoleg presgripsiynau electronig yn cael ei chymeradwyo i'w defnyddio yn Boots yng Nghymru

Mae’r gwaith o gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion a staff gofal iechyd, yn parhau i gyflymu. 

26/06/24
Mae'r dyddiad cau yn agosáu ar gyfer grantiau'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig i drawsnewid systemau fferylliaeth yng Nghymru

Mae’r dyddiad cau nesaf (4 Gorffennaf 2024) yn prysur agosáu i gyflenwyr systemau fferylliaeth wneud cais am grantiau i'w helpu i ddatblygu technoleg gwasanaeth presgripsiynau electronig (EPS) i’w defnyddio yng Nghymru.

10/06/24
Y darparwr technoleg gofal iechyd EMIS yn profi meddalwedd presgripsiwn electronig i'w ddefnyddio yng Nghymru

As pharmacies prepare for a new digital service that will completely change the way prescriptions are managed, EMIS is announced as the fifth IT system supplier to test its technology to support electronic prescriptions in Wales. 

23/05/24
Y cyflenwr TG gofal iechyd Clanwilliam yn profi ei dechnoleg presgripsiynau yng Nghymru

Mae’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru yn cyflymu, gyda’r cyflenwr TG gofal iechyd Clanwilliam yn profi ei dechnoleg i gefnogi’r rhaglen.  

15/05/24
Placiau coffa yn nodi'r defnydd cyntaf o wasanaeth presgripsiynau electronig yng Nghymru

Mae’r feddygfa a’r fferyllfa gyntaf i ddefnyddio presgripsiynau electronig yng Nghymru wedi’u hanrhydeddu â phlaciau coffa. 

24/04/24
Invatech yn derbyn caniatâd i gyflwyno rhagnodi electronig ledled Cymru

Mewn carreg filltir gyffrous arall ym maes rhagnodi electronig yng Nghymru, mae Invatech, y cyflenwr systemau fferyllol, wedi derbyn caniatâd i gyflwyno ei dechnoleg ledled Cymru.