Mae wyth cronfa ddata ar wahân ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi'u disodli gan un gronfa ddata genedlaethol.
Disgrifiwyd ymagwedd DHCW at gynhwysiant digidol yn “rhagorol” ar ôl ennill Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol.
Boots yw’r ail gyflenwr systemau fferyllol i ddatblygu a phrofi’r dechnoleg sydd ei hangen i gefnogi’r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru.
Mae’r Adolygiad Blynyddol cyntaf wedi’i gyhoeddi heddiw (08 Ionawr, 2024) gan y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP)
Yn ôl ym mis Gorffennaf 2018 ymunodd Bryoni Keighley â’r Gwasanaethau Gwybodaeth a elwid bryd hynny yn Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), fel un o’r Prentisiaid Gweinyddol Busnes cyntaf. A dim ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, ar ôl ei hymdrech aruthrol mae hi wedi graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Systemau Data a Gwybodaeth.
Wrth i 2023 ddod i ben, hoffem ddiolch i’n staff, cydweithwyr GIG Cymru, partneriaid a’r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae wyth o gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol wedi cael grantiau i wneud yr arloesiadau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth presgripsiynau electronig yng Nghymru a fydd yn helpu cleifion, meddygon teulu a fferyllfeydd.
Cafodd cyfleoedd cyffrous ar gyfer sut y gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru eu rhannu mewn gweminar Data Mawr heddiw.
Gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lansio gwasanaeth presgripsiynau electronig yn llwyddiannus yng Nghymru
Daeth mwy na 220 o gydweithwyr o dimau Cynllunio, y Gweithlu a Chyllid ar draws GIG Cymru ynghyd yr wythnos diwethaf ar gyfer digwyddiad cynllunio a dysgu cenedlaethol diweddaraf y Rhaglen Gynllunio ar gyfer Dysgu.
Y mis hwn, bydd y Nodyn Ymgynghori ar Ddiabetes (DCN) yn cyrraedd record newydd sef bod 200,000 o nodiadau wedi cael eu creu ers ei lansio yn
Nodwyd yr angen am gofnod electronig Cymru gyfan i helpu i wella cynllunio a darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn dilyn cam un o brosiect darganfod gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Mae’r Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) a Kainos wedi cael eu henwebu am y Wobr Prosiect Gofal Iechyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU BCS a Computing 2023 am waith Arloesol ar Ap GIG Cymru.
Mae Rhian Hamer, Cyfarwyddwr Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr fawreddog diwydiant TG yn y DU 2023 am ei gwaith ysbrydoledig yn arwain un o’r newidiadau iechyd digidol mwyaf yng Nghymru.
Gwelodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, systemau a gwasanaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar waith yn ystod ymweliadau â swyddfa DHCW yng Nghaerdydd ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot (CNPT) y mis hwn.
Mae partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a Rhaglen Frechu Cymru wedi symleiddio’r broses o gyflawni ymgyrch atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023.
Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn a Thîm Llywodraethu’r Flwyddyn yng ngwobrau Risg GRC World Forums sy’n dathlu rhagoriaeth fyd-eang mewn Llywodraethu, Risg a Chydymffurfiaeth.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cadw ei achrediad ar gyfer y Safon Ryngwladol ar gyfer Rheoli Systemau (ISO 20000).