Mae BIP Aneurin Bevan a'r rhaglen NDR wedi datblygu dangosfyrddau sy'n seiliedig ar y cwmwl gyda dadansoddeg ragfynegol i helpu i ddelweddu, deall a rhagweld llif cleifion, gan gefnogi cynllunio a darparu gwasanaethau gwell ar draws GIG Cymru.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dewis Better fel ei bartner technoleg i ddarparu system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA)
Mae’r Gwasanaeth Data Cenedlaethol (NDR) yn cysylltu data iechyd a gofal ledled Cymru i wella gofal cleifion drwy ddefnyddio data’n foesegol, yn ddiogel ac yn dryloyw. Mae’r ymgyrch Adeiladu cysylltiadau data yn amlygu sut mae Cymru’n creu system gofal iechyd fwy cysylltiedig a chynaliadwy.
Daeth Blood Cancer UK â thasglu amlddisgyblaethol ynghyd i ymchwilio i heriau mewn gofal canser y gwaed yn y DU, gyda dadansoddwyr o Iechyd Digidol a Gofal Cymru yn defnyddio data dienw Cymru yn y Banc Data SAIL i gefnogi'r gwaith hwn. Datgelodd y dadansoddiad fewnwelediadau allweddol i gyfraddau goroesi ac anghydraddoldebau iechyd, gan gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Canser y Gwaed ac ennill cydnabyddiaeth mewn cynadleddau meddygol blaenllaw.
Gan weithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), cyflwynodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol (NDA) ar gyfer gofal eilaidd a gwasanaethau arbenigol yn llwyddiannus am y tro cyntaf gan ddefnyddio data o’r Nodyn Ymgynghori ar Ddiabetes (DCN).
Mae gwasanaeth digidol a ddisgrifiwyd gan staff gofal iechyd fel un sy'n 'arloesol' bellach ar gael mewn dros 50% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
Mae pedwar porthiant data cenedlaethol newydd bellach yn fyw ar y Llwyfan Data a Dadansoddeg Cenedlaethol (NDAP), gan wella cyflymder, ansawdd ac effeithlonrwydd rhannu data ar draws GIG Cymru.
Mae arweinwyr ar draws disgyblaethau digidol ac iechyd meddwl wedi cyfarfod fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ddigidol.
Mae cleifion ar fin elwa ar drawsnewidiad digidol cyffrous ym Mhowys, wrth i gam mawr ymlaen gael ei gymryd tuag at ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithlon mewn ysbytai.
Yn IGDC, rydym yn falch o gydnabod ein hethos a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth cryf. Mae’r bartneriaeth hon wedi tyfu dros nifer o flynyddoedd o gydweithio.
Mae’r fenter ‘Sgiliau Maeth am Oes’, a ddarperir gan ddietegwyr y GIG, wedi’i gwella drwy fewnwelediadau a yrrir gan ddata, diolch i Raglen Ddysgu Dadansoddol yr Adnodd Data Cenedlaethol (ALP). Mae’r rhaglen bellach yn elwa ar ddangosfwrdd Power BI, sy’n galluogi gwell olrhain effaith a defnydd adnoddau, gyda thrawsnewid digidol hefyd yn cyflwyno dau ap newydd i gefnogi addysg bwyta’n iach. Drwy integreiddio mewnwelediadau data â hyfforddiant ymarferol, mae'r fenter yn gwella canlyniadau iechyd cymunedol ledled Cymru.
Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) wedi helpu bron i 27,000 o bobl yng Nghymru i gael y brechlyn RSV (feirws syncytiol anadlol). Mae’r system yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i reoli’r broses frechu.
Ddydd Llun, 10 Mawrth, cynhaliodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ein digwyddiad Menywod mewn Technoleg mewnol cyntaf yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Mynchwyd y digwyddiad nod oedd amlygu a grymuso ein cydweithwyr benywaidd sy’n gweithio mewn rolau technegol ar draws IGDC.
Roedd dathliadau eleni i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru yn cynnwys digwyddiad a gynhaliwyd gan Microsoft yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Roedd Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Microsoft a Gamma i gynnal digwyddiad cenedlaethol ar gyfer cydweithwyr ar draws GIG Cymru yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd.
Mae miliwn o eitemau presgripsiwn bellach wedi’u dosbarthu yng Nghymru drwy wasanaeth digidol sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyflwyno system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) newydd i wella diogelwch cleifion a symleiddio llifoedd gwaith ysbytai. Fel rhan o Raglen Moddion Digidol GIG Cymru, mae ePMA yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau costau ac yn cefnogi strategaeth iechyd hirdymor BIPAB.
Mae gwasanaeth digidol newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i helpu i wneud y broses o ddod o hyd i ddeintydd y GIG yn haws.
Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), a leolir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (CAV), yw’r 58fed ysbyty a’r olaf i fynd yn fyw gyda Chofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).