Yr Adnodd Data Cenedlaethol yw'r sylfaen ddigidol ddiogel sy'n cysylltu systemau iechyd a gofal ledled Cymru, gan ganiatáu i wybodaeth fel apwyntiadau a diweddariadau rhestrau aros gael eu rhannu'n gywir ac yn ddiogel rhwng sefydliadau. Er ei fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni, mae'n sicrhau y gall gwasanaethau fel Ap GIG Cymru roi gwybodaeth glir a chyfoes i gleifion wrth amddiffyn eu preifatrwydd a chefnogi gwell gwneud penderfyniadau ar draws y GIG.
Mae Saernïaeth Darged Genedlaethol yn diffinio sut mae systemau digidol ar draws iechyd a gofal yng Nghymru yn cysylltu ac yn cefnogi gwasanaethau'n ddiogel ac yn effeithiol, a ddarperir trwy bartneriaethau cenedlaethol gyda gweithrediad graddol dros gyfnod o ddeng mlynedd. Mae'n nodi ecosystem ddigidol ddiogel, gysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Mae'r rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol (NDR) yn lansio Gwasanaeth Ceisiadau newydd sbon, gan weithredu fel siop un stop lle gall rhanddeiliaid gyflwyno ceisiadau data, dod o hyd i wybodaeth, a rheoli eu hanghenion - i gyd mewn un lle.
Bydd rhagnodi electronig yn trawsnewid y ffordd y caiff meddyginiaethau eu rhoi mewn lleoliadau gofal iechyd ledled Cymru.
Mae’r tîm Adnoddau Data Cenedlaethol yn defnyddio’r Google Transfer Appliance yn llwyddiannus i symud llawer iawn o ddata yn ddiogel o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) i’r Google Cloud Platform (GCP). Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd â strategaeth DHCW ac mae'n cefnogi nodau'r NDR ar gyfer rhannu a dadansoddi data yn well.
Mae Cymru’n cychwyn ar daith drawsnewidiol ym maes gofal...
Bob dydd, mae miloedd o bobl yng Nghymru yn llywio’u ffordd drwy system iechyd gymhleth, ond gall Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) chwyldroi sut rydym yn darparu gofal iechyd yng Nghymru.
Aeth system Datrysiad Gwybodaeth Cymru ar gyfer Rheoli Diabetes (WISDM) yn fyw ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gorllewin ar 11 Rhagfyr, 2023.
Yn y postiad hwn, mae Anne Watkins, Sian Thomas a Sarah Aston yn trafod pwysigrwydd dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a sut mae wedi’i gymhwyso i Raglen Mamolaeth Ddigidol Cymru.
"Nid dim ond rhoi label ar flwch mohono…”
Esboniodd Christian Smith, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, bydd arolwg defnyddioldeb newydd ar gyfer clinigwyr rheng flaen a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn yn cynnig cyfle i drafod dyluniad a defnyddioldeb systemau digidol ledled Cymru – a gallai dim ond wyth munud o’ch amser wneud gwahaniaeth mawr.
Mae arnom angen fwy o fenywod a mwy o amrywiaeth ar bob lefel yn ein diwydiant, os ydym am greu cynhyrchion a gwasanaethau sydd wir yn gweithio i bawb sy'n eu defnyddio.
Fel meddyg teulu, rwy’n deall pwysigrwydd darparu’r gofal gorau posibl i’m cleifion. Gyda datblygiad Ap GIG Cymru, rydym ar fin gweld sut y gallwn wella'r gwasanaeth i'n cleifion a gwneud bywyd yn haws i ni fel meddygon teulu.
Mae Sam Hall, ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl newydd yn esbonio beth yw rhai o'r heriau i'r gwasanaethau hyn, ac yn siarad am yr hyn a’i denodd i’r swydd.
Mae'r rhaglen DSPP yn rhan o Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â Kainos i ddatblygu Ap GIG Cymru.
Mae Suzanne Crompton, Arweinydd Therapi Galwedigaethol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn datgelu sut mae newid o bapur a thaenlenni i lif gwaith cwbl ddigidol wedi trawsnewid proses archwilio ei hadran.