Neidio i'r prif gynnwy

Blog - 5 Rhesymau pam y dylai meddygon teulu fabwysiadu Ap GIG Cymru gan Dr Aled Davies

Fel meddyg teulu, rwy’n deall pwysigrwydd darparu’r gofal gorau posibl i’m cleifion. Gyda'r anawsterau a wynebwyd gennym i gyd yn ystod y pandemig Covid-19 a'r datblygiadau cyflym mewn technoleg, rwy'n gweld newid aruthrol yn y ffordd yr ydym yn gweithio o’i chymharu â 3 blynedd yn ôl. Gyda datblygiad Ap GIG Cymru, rydym ar fin gweld sut y gallwn wella'r gwasanaeth i'n cleifion a gwneud bywyd yn haws i ni fel meddygon teulu.

  1. Rhwyddineb defnydd - Profwyd fersiwn gyntaf Ap GIG Cymru gan 706 o bobl mewn 10 practis meddyg teulu o fis Hydref 2022 mewn cyfnod profi Beta Preifat. Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan y defnyddwyr hyn yn hynod gadarnhaol ac roedd 75% yn dweud eu bod yn fodlon iawn ar yr ap.
  1. Gwell effeithlonrwydd - Bydd Ap GIG Cymru yn caniatáu i’ch cleifion gael mynediad at ystod o wasanaethau megis apwyntiadau, canlyniadau profion, a phresgripsiynau rheolaidd trwy wasgu botwm, gan osgoi ciwio ar y ffôn ac apwyntiadau diangen, gan ysgafnhau’r baich ar reolwyr a staff cymorth. Yn ogystal, gall eich helpu i reoli eich llwyth gwaith yn well trwy leihau ymweliadau diangen a darparu gwybodaeth i chi a'ch cleifion a all gefnogi gwell gofal.
  1. Moderneiddio sut y caiff practisiau eu rhedeg gyda thechnoleg – Fel y dywedais uchod, mae technoleg yn datblygu mor gyflym ac mae'n bwysig ein bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y dechnoleg sydd ar gael i wneud ein bywydau'n haws a bod ein swyddfeydd yn rhedeg yn fwy effeithlon ac yn treulio llai o amser yn dyblygu gwybodaeth drwy ddiweddaru cofnodion â llaw ac ati.
  1. Cydlynu gofal ac adnoddau yn well - Gydag Ap GIG Cymru, byddwch yn gallu rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill a chydlynu gofal eich cleifion yn fwy effeithiol. Bydd hyn yn gwella ansawdd y gofal y mae eich cleifion yn ei dderbyn ac yn helpu i wneud gwell defnydd o'r adnoddau sydd ar gael.
  1. Cyfathrebu â chleifion yn well - Bydd Ap GIG Cymru hefyd yn gwella cyfathrebu rhyngoch chi a'ch cleifion. Bydd eich cleifion yn gallu dod o hyd i’w gwybodaeth iechyd ar unrhyw adeg, yn unrhyw le, a chyfathrebu â chi yn uniongyrchol trwy'r ap, gan ei gwneud hi'n haws i chi ddarparu'r gofal sydd ei angen arnynt.

Bydd Ap GIG Cymru yn cychwyn ar gyfnod pellach o brofi sy’n cynnwys mwy o bobl a phractisiau yng Nghymru yn gynnar yn 2023. Peidiwch â cholli'r cyfle i fabwysiadu'r dechnoleg arloesol hon yn eich ymarfer. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r don nesaf o bractisau meddygon teulu i fabwysiadu Ap GIG Cymru, e-bost dsppinfo@nhs.wales.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Ap GIG Cymru anfonwch e-bost at dsppinfo@nhs.wales.uk