Neidio i'r prif gynnwy

Yr arolwg defnyddioldeb systemau digidol cenedlaethol: Gwnewch yn siŵr fod eich llais yn cael ei glywed

Esboniodd Christian Smith, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, bydd arolwg defnyddioldeb newydd ar gyfer clinigwyr rheng flaen a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach y mis hwn yn cynnig cyfle i drafod dyluniad a defnyddioldeb systemau digidol ledled Cymru – a gallai dim ond wyth munud o’ch amser wneud gwahaniaeth mawr.

Fel y rhan fwyaf o weithwyr iechyd proffesiynol, rydw i wedi treulio oriau di-ri yn ymgodymu â'r systemau TG clinigol amrywiol rydw i wedi'u defnyddio yn fy ngyrfa. Mae rhai wedi fy ngwasanaethu’n dda. Ac eraill tipyn llai. Ond boed er gwell neu er gwaeth, roedd y systemau hyn bob amser yn cael effaith sylweddol ar fy mywyd gwaith a'm gallu i wneud fy swydd.

Nawr, yn fy rôl bresennol, rwy’n gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru i edrych ar gwestiwn mwy sylfaenol: hynny yw, sut rydym yn gwneud y gwelliannau hirdymor a’r buddsoddiad angenrheidiol fel bod y profiad o ddefnyddio system ddigidol yn gyson dda lle bynnag rydych yn gweithio yng Nghymru.

I mi, mae tri pheth yn wirioneddol bwysig. Yn gyntaf, mae arnom angen tystiolaeth dda, ddibynadwy sy'n dangos lle mae problemau neu wendidau; yn ail, mae angen newid meddylfryd fel ein bod yn edrych ar y byd yn gyson trwy lygaid y clinigwyr sy'n defnyddio'r dechnoleg yn ymarferol; ac yn drydydd, mae angen inni fesur a meincnodi perfformiad ein systemau yn barhaus o safbwynt defnyddwyr fel ein bod yn gwybod beth sy'n gweithio a beth sydd ddim.

Am yr holl resymau hynny, rwy'n gyffrous iawn bod GIG Cymru ar fin lansio ei Arolwg Defnyddioldeb Systemau Digidol cenedlaethol cyntaf erioed yn ddiweddarach y mis hwn. Fel nyrs sydd wrth ei gwaith ar hyn o bryd, rydw i eisiau annog fy holl gydweithwyr ledled Cymru yn arbennig i gefnogi hynny – mae’n bwysig ein bod yn achub ar y cyfle hwn i ddweud ein dweud ar sut mae TG glinigol yn gweithio, ac i ddefnyddio ein llais i lunio ei dyfodol.

Ymhlith pethau eraill, mae’r arolwg yn ceisio deall cwestiynau megis:

  • A yw'r system ddigidol rydych yn ei defnyddio yn eich helpu neu'n eich rhwystro yn eich tasgau o ddydd i ddydd?
  • Pa bethau penodol sy’n anodd ac sy’n achosi rhwystredigaeth i chi?
  • A yw'r system wedi'i ffurfweddu i ddiwallu eich anghenion unigol?
  • Ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r hyfforddiant a'r cymorth ymarferol i'w ddefnyddio i'r eithaf?

Bydd eich atebion yn rhoi ffynhonnell gyfoethog o adborth i sefydliadau unigol i'w helpu i wella systemau'n lleol ac i feincnodi eu perfformiad yn erbyn eu cymheiriaid. Ar lefel genedlaethol, bydd y canlyniadau yn ein helpu i ymgysylltu â darparwyr digidol ar faterion ehangach y gallent eu gwella.

Mewn egwyddor, mae pawb yn gwybod pa mor bwysig y dylai ein systemau digidol fod fel ffordd o alluogi gofal diogel, effeithiol, cydgysylltiedig. Yn ymarferol, mae llawer ohonom hefyd yn gwybod y gallant fod yn araf, yn feichus ac yn gallu'ch trethu gyda phob trawiad ar fysellfwrdd.

Dyma gyfle i newid hynny. Drwy siarad am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio, byddwch yn ein helpu i gasglu'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom i wella ein systemau TG clinigol ar gyfer y dyfodol. Felly cymerwch ran yn yr ymchwil bwysig hon. Lledaenwch y gair i ni. A gwnewch yn siŵr bod y gymuned glinigol yn cael ei chlywed yn uchel ac yn glir yn y canlyniadau.

Bydd yr Arolwg Defnyddioldeb Systemau Digidol cenedlaethol yn cael ei lansio ledled Cymru ar 27 Mawrth 2023. Bydd yn agored i bob clinigwr sy'n defnyddio system ddigidol yn ei waith a bydd yn cymryd tua 8 munud i'w gwblhau.